Drakeford yn cymharu buddion ynni niwclear â Chernobyl

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod yr wybodaeth sydd wedi ei rannu o'r cyfarfod preifat yn "gwbl unochrog"

Mae un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur yng Nghymru, Mark Drakeford, wedi cymharu buddion economaidd pŵer niwclear gyda thrychinebau Chernobyl a Fukushima.

Dywedodd na fyddai pobl yn byw yn yr ardaloedd yno eisiau clywed mai "dyma'r ffordd mae eich amgylchedd yn cael ei ddiogelu".

Cafodd y sylwadau eu hanelu at aelodau eraill o'r blaid Lafur yn ystod hystings, cyn cael eu rhannu gyda'r BBC.

Ond mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi dweud fod y wybodaeth sydd wedi ei rannu am ei sylwadau yn "gwbl unochrog".

Mae Mr Drakeford wedi derbyn beirniadaeth am ei safbwynt "amheuol" tuag at bŵer niwclear.

"Dywedais wrth Eluned mewn dadl flaenorol, mewn ymateb i'w chred hi fod pŵer niwclear yn fantais i'r economi, 'dywedwch hynny wrth y bobl yn Chernobyl, dywedwch hynny wrth bobl Fukushima'," meddai mewn hystings yng Nghasnewydd ddydd Iau.

Wrth ymateb i feirniadaeth gan aelodau o'r gynulleidfa, dywedodd: "Efallai nad ydych chi'n ei hoffi, ond fyddech chi ddim yn ei hoffi petaech chi'n byw yno chwaith, a chlywed mai dyma'r ffordd mae eich amgylchedd yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol."

Yn ôl AC Caerffili, Hefin David, mae angen meddwl yn ofalus ynglŷn â'r geiriau sy'n cael eu defnyddio mewn amseroedd fel hyn.

"Mae yna elfen o fyrbwylltra yn y gymhariaeth a wnaeth Mark Drakeford, a dwi'n siŵr nad dyma oedd y bwriad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan a Vauhan Gething wedi beirniadu safbwynt Mark Drakeford ar orsaf bŵer Wylfa Newydd yn y gorffennol

Mae Vaughan Gething ac Eluned Morgan wedi dweud yn y gorffennol y gallai ei safbwynt effeithio ar gynlluniau gorsaf bŵer Wylfa Newydd.

Dywedodd Mr Drakeford ar y pryd fod rhaid i ddatblygwyr yr orsaf gymryd cyfrifoldeb am yr effaith ar yr ardal leol, ond bod hynny ddim yn golygu na allai'r orsaf gael ei hadeiladu.

Bydd enillydd y ras i fod yn arweinydd y Blaid Lafur hefyd yn dod yn Brif Weinidog Cymru - ond ni fydd gan yr unigolyn hwnnw bwerau dros orsafoedd ynni o faint Wylfa.

Dywedodd y Prif Weinidog presennol, Carwyn Jones, fod gan Wylfa Newydd y potensial i "drawsnewid economi Cymru".

Cydnabod pwysigrwydd Wylfa

Dywedodd Mr Drakeford: "Ni ddylai unrhyw un ddibynnu ar wybodaeth gwbl unochrog a phleidiol gafodd ei rannu o gyfarfod preifat er mwyn llunio eu barn am unrhyw ymgeisydd yn yr etholiad hwn.

"Rydw i wedi dweud sawl gwaith fy mod i'n cydnabod pwysigrwydd datblygiad Wylfa Newydd ar gyfer Ynys Môn.

"Rôl y llywodraeth, os yw'r datblygiad yn mynd yn ei flaen, yw sicrhau fod buddion hir dymor trigolion Ynys Môn yn cael eu gwarchod a bod y datblygwyr yn cyflawni eu holl ddyletswyddau.

"Os ydw i'n Brif Weinidog yna byddaf yn sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau'r canlyniad hwnnw."