Drakeford yn gwrthod honiad fod ganddo 'ddiffyg angerdd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffefryn ar gyfer ras arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi gwrthod honiad nad oes ganddo'r angerdd angenrheidiol i arwain Cymru.
Daw sylwadau Mark Drakeford ar ôl iddo gyfaddef nad oedd ganddo "unrhyw uchelgais personol i fod yn brif weinidog".
Ond mynnodd yr Ysgrifennydd Cyllid y byddai'n gweithio'n "ddiflino a gyda fy holl egni" pe bai'n llwyddiannus.
Roedd yn ymateb i feirniadaeth gan yr ymgeiswyr eraill yn y ras i olynu Carwyn Jones, ar ôl iddo ddatgan fod yna rannau o rôl y prif weinidog na fyddai'n "edrych ymlaen atynt".
Dywedodd fod y rhain yn cynnwys sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog a chael ei holi gan y cyfryngau.
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, sydd yn cystadlu yn erbyn Mr Drakeford: "Os ydych am gael y swydd, mae'n rhaid i chi fod yn ysu am y swydd oherwydd mae yna nifer o heriau o'n blaenau mewn cyfnod digon anodd.
"Dyw pobl Cymru ddim am weld teimlad o amharodrwydd o du ymgeisydd sydd am fod yn brif weinidog."
Un arall sy'n cystadlu am yr arweinyddiaeth yw'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Dywedodd: "Dwi'n meddwl fod angen i unrhyw un fydd yn arwain yn y dyfodol gael yr awch a'r uchelgais yna ar gyfer ein gwlad, a bod wir eisiau'r swydd.
"Dylai hynny gynnwys uchelgais cryf i wasanaethu a thrawsnewid ein gwlad."
Daeth hynny wedi i aelod blaenllaw o dîm ymgyrchu Mr Gething ddweud y byddai sylwadau Mr Drakeford am ei ddiffyg hoffter o sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn fêl ar fysedd y gwrthbleidiau.
Pan wnaeth Mr Drakeford grybwyll sefyll i olynu Carwyn Jones, dywedodd y byddai am arwain Llafur yn etholiadau'r Cynulliad nesaf ac yna camu i'r neilltu ar gyfer "cenhedlaeth newydd".
Wrth ymateb i'r feirniadaeth dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn sefyll i fod yn arweinydd "er mwyn uchelgais personol", ond ei fod yn gwneud hynny "oherwydd fy mod yn credu mai fi yw'r person gorau i wasanaethu'r blaid a'r wlad yn ystod y cyfnod heriol hwn yn ein hanes".
Ychwanegodd y byddai'n gweithio'n "ddiflino er mwyn llwyddo yn fy nghyfrifoldebau a hynny ar ran pobl Cymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018