Apêl wedi 'ymosodiad difrifol' yn Llanbedr Pont Steffan

  • Cyhoeddwyd
Ymosodiad LlanbedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan nos Iau 8 Tachwedd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Llanbedr Pont Steffan, ble wnaeth menyw ddioddef anafiadau difrifol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Bont tua 18:00 nos Iau, 8 Tachwedd.

Dywedodd yr heddlu fod y wraig yn parhau'n ddifrifol wael yn yr ysbyty.

Cafodd pedwar dyn eu harestio mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys apêl yn yr iaith Bwyleg ar eu cyfrif Twitter yn gofyn am wybodaeth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan HeddluDPPolice

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan HeddluDPPolice

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ er mwyn ceisio cael darlun o'r hyn arweiniodd at y digwyddiad, yn ogystal â'r digwyddiad ei hun.

"Rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad," meddai DCI Anthony Evans.

"Does dim ots pa mor ddibwys yr ydych chi'n meddwl yw'r wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda.

"Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan aelodau o'r gymuned Bwylaidd allai fod yn adnabod yr unigolion sy'n rhan o'r digwyddiad, allai fod â gwybodaeth berthnasol.

"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd nad ydym yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."