'Mwy o addysg ar-lein' wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd

  • Cyhoeddwyd
Athrawes yn dysguFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2019 ac yn dod i rym yn 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sut bydd cwricwlwm newydd addysg yn cael ei weithredu mewn ysgolion.

Bydd y cynllun yn cynnwys mwy o bwyslais ar addysg tu hwnt i'r dosbarth ac addysg ar-lein.

Bydd y cwricwlwm newydd hefyd yn cynnig cymorth i gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol disgyblion.

Cyhoeddwyd y buddsoddiad gwerth £24m gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni a bydd yn digwydd dros gyfnod o ddwy flynedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon o ran dulliau addysgu, a cheisio lleihau effaith y newid ar ddisgyblion.

'Gwerthfawrogi athrawon'

Bwriad y cynllun yw cyflwyno chwe maes newydd o ddysgu er mwyn ceisio datblygu sgiliau bywyd ar gyfer pobl ifanc.

Mewn ymateb dywedodd Huw Foster Evans, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru: "Rydym yn croesawu'n fawr fod yna fuddsoddiad sylweddol mewn dysgu proffesiynol."

Ychwanegodd bod angen "sicrhau bod y gwersi sy'n cael eu dysgu dros y ddwy flynedd nesaf yn gynaliadwy".

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y cynllun yn galluogi i athrawon gael amser digonol i gynllunio eu cwricwlwm a hynny heb amharu ar addysg disgyblion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: "Mae'r buddsoddiad yn dangos faint yr ydym yn gwerthfawrogi ein hathrawon.

"Rydym yn cynnig y cyfleoedd i ysgolion gydweithio er mwyn helpu'r newidiadau wrth i'r cwricwlwm newydd ddod i rym."