TGAU Saesneg: 'Diffyg hyder yn y byrddau arholi'
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon wedi "colli hyder" yn rhai o'r cyrff sy'n gyfrifol am arholiadau yng Nghymru, yn ôl cynrychiolwyr addysg chwech o gynghorau'r gogledd.
Yn ôl consortiwm addysg GwE - sy'n cynrychioli rhieni, penaethiaid ysgolion a swyddogion addysg yr awdurdodau lleol - roedd newidiadau i'r system raddio TGAU Saesneg eleni wedi rhoi cannoedd o ddisgyblion dan "anfantais".
Rhwng haf 2017 a'r haf eleni cafodd y sgôr yr oedd myfyrwyr ei angen ar gyfer gradd 'C' mewn Saesneg TGAU ei newid tair gwaith.
Mae CBAC yn dweud eu bod nhw'n hyderus yn eu trefn o ddyfarnu graddau.
Mae GwE yn honni bod y newid yn fawr ac wedi golygu bod myfyrwyr a safodd yr arholiad yn gynnar wedi cael eu trin yn wahanol i ddisgyblion oedd yn yr un flwyddyn ond wnaeth sefyll yr arholiad rai misoedd yn ddiweddarach.
Maen nhw'n dweud bod 700 o ddisgyblion yng ngogledd Cymru wedi cael gradd D, pan y gallen nhw fod wedi cael gradd C o dan yr hen drefn - gan ddisgrifio'r sefyllfa fel "loteri".
Dywedodd cadeirydd GwE, Gareth Thomas: "Nid yw'n ormod dweud bod athrawon wedi colli hyder yng Nghymwysterau Cymru a CBAC, gyda graddau gafodd eu rhoi i fyfyrwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn debycach i waith loteri na bwrdd arholi.
"O ganlyniad, rydym yn galw ar yr Ysgrifennydd Addysg i ymchwilio i'r hyn sydd wedi mynd o'i le ac i sicrhau bod Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr a CBAC fel y bwrdd arholi yn mynd i drafodaethau ystyrlon gyda rhanddeiliaid allweddol fel cam cyntaf tuag at adfer ymddiriedaeth, hyder a thryloywder yn y system."
'Cynnal y safon'
Mae Cymwysterau Cymru - y corff sy'n goruchwylio'r system arholiadau - wedi ymchwilio i'r pryderon gan gasglu bod y ffiniau graddau wedi eu gosod yn gywir gan Gyd Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC).
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru: "Ein cyfrifoldeb fel y corff annibynnol sy'n rheoleiddio cymwysterau yw cynnal y safon genedlaethol.
"Gwnaethom ymchwilio i'r pryderon hyn pan gawsant eu codi ym mis Medi a chyhoeddi adroddiad manwl ar y pryd.
"Ar ôl dadansoddi'r holl dystiolaeth a fu ar gael yn drwyadl, daethom i'r casgliad bod y ffiniau gradd wedi'u gosod yn gywir gan CBAC, a bod y safon genedlaethol ar gyfer TGAU Saesneg Iaith yn gyson â'r llynedd.
"Mae'r adroddiad llawn wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan, gyda blog esboniadol. Cawsom ddeialog parhaus gyda'r rheiny a gododd bryderon, ac rydym yn parhau i wneud hynny."
Dim tystiolaeth o safonau anghyson
Dywedodd prif weithredwr CBAC, Roderic Gillespie, mai eu "prif nod yw sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn y graddau maen nhw'n eu haeddu".
Pwysleisiodd Mr Gillespie fod prosesau dyfarnu CBAC "yn deg ac yn dryloyw".
"Dylai dysgwyr, athrawon, rhieni ac arweinwyr addysg deimlo'n hyderus yn y graddau yr ydym yn eu dyfarnu," meddai.
Ychwanegodd bod adroddiad gan Gymwysterau Cymru ym Medi 2018 yn dangos "nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiadau bod safonau anghyson yn cael eu defnyddio ar draws gwahanol gyfres o arholiadau".
Dywedodd Mr Gillespie: "Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn deall y safonau ac yn rhoi arweiniad ychwanegol iddynt trwy amrywiaeth o ddeunyddiau cefnogi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst 2018