'Adolygu prosesau' wedi camgymeriad papur arholiad

  • Cyhoeddwyd
arholiadau

Mae corff arholi CBAC yn dweud y byddan nhw'n adolygu eu prosesau ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod papur arholiad gafodd ei roi i ddisgyblion yn wahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cafodd y gwall ei ganfod yn yr arholiad Astudiaethau Crefyddol Uwch Gyfrannol - sef y cymhwyster ar gyfer y cyfnod rhwng TGAU a Safon Uwch - ddydd Iau.

Mewn datganiad, dywedodd CBAC eu bod yn ymddiheuro am y gwahaniaeth yn yr uned "Cyflwyniad i Astudiaeth Bwdhaeth" yn y Gymraeg â'r Saesneg.

Fe glywodd Newyddion 9 bod hyn wedi achosi dryswch mewn rhai ysgolion.

'Digwyddiad ynysig'

Er hynny, mae CBAC yn pwysleisio bod y ddau bapur yn ddilys ac na fydd yr un ymgeisydd dan anfantais.

Mewn datganiad dywedodd y corff arholi: "Mae CBAC yn ymwybodol bod gwahaniaeth rhwng y papur arholiad Astudiaethau Crefyddol UG, Uned 1 Opsiwn D 'Cyflwyniad i Astudiaeth Bwdhaeth' yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Hoffai CBAC ymddiheuro am unrhyw ddryswch a achoswyd gan y gwahaniaeth hwn. Gallwn sicrhau athrawon a disgyblion fod y ddau bapur yr un mor ddilys ac yn cwmpasu cynnwys y fanyleb gyhoeddedig.

"Bydd arholwyr ac aelodau'r pwyllgor dyfarnu'n cael gwybod am y sefyllfa. Sicrhawn fod atebion pob ymgeisydd yn cael ei farcio yn unol â'r cynllun marcio perthnasol.

"Hoffem wneud canolfannau ac ymgeiswyr yn ymwybodol fod hwn yn ddigwyddiad ynysig ac ni fydd yn effeithio'n negyddol ar berfformiad yr ymgeiswyr sydd wedi sefyll y papur hwn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y papur arholiad yn ymwneud ag astudiaethau Bwdhaeth

Yn ôl undeb athrawon UCAC mae'n rhywbeth all achosi dryswch ac annifyrrwch i staff a disgyblion sydd eisoes dan straen.

"Mae UCAC yn gresynu at unrhyw gamgymeriad mewn papur arholiad," meddai llefarydd.

"Mae'n ymddangos yn yr achos hwn bod y cwestiwn Cymraeg a'r cwestiwn Saesneg ill dau yn ddilys, dim ond eu bod yn wahanol ar y naill bapur â'r llall. Mae'n sefyllfa anffodus felly yn hytrach nag un wirioneddol ddifrifol.

"Hyderwn y bydd modd i CBAC sicrhau na fydd unrhyw anfantais i unrhyw ddisgybl yn deillio o'r camgymeriad ac y bydd ymchwiliad mewnol i sut ddigwyddodd yr amryfusedd er mwyn osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol."