Penodi prif weithredwr di-Gymraeg i CBAC yn 'warthus'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ddirprwy brif weithredwr CBAC wedi disgrifio penodiad prif weithredwr newydd y corff fel un "gwarthus" sy'n "destun cywilydd".
Roedd Derec Stockley yn siarad wedi i'r corff arholi gyhoeddi mai Roderic Gillespie, sydd ddim yn medru'r Gymraeg, fydd y prif weithredwr newydd.
Dywedodd CBAC fod gan Mr Gillespie "ddegawd o brofiad dysgu a rheolaeth colegau" a bod ganddo "ddealltwriaeth gadarn o ofynion y sector cyfrwng Cymraeg".
Tra'n cydnabod ystod profiad Mr Gillespie, mynegodd undeb athrawon UCAC bryder na fydd y prif weithredwr newydd yn gallu cyfathrebu â rhanddeiliaid drwy'r Gymraeg.
'Trychinebus'
Dywedodd Mike Evans, cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CBAC: "Mae Roderic wedi dangos ymrwymiad sylweddol i'r sector addysg yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ddeall yr heriau sy'n wynebu athrawon a chyrff dyfarnu.
"Gall felly adeiladu ar lwyddiant CBAC ac Eduqas. Bydd ei brofiad a brwdfrydedd yn bendant yn effeithio'n gadarnhaol ar y sefydliad cyfan."
Ond mewn cyfweliad ar raglen Y Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd Mr Stockley fod penodiad Mr Gillespie yn "golli cyfle trychinebus".
"Sut bydd e'n gallu ymwneud â rhanddeiliaid addysg Gymraeg a dwyieithog, penaethiaid ysgolion a cholegau, undebau, prif athrawon ac athrawon, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Dyfodol yr Iaith, yr awdurdodau addysg?
"A beth wedyn am uchelgais Llywodraeth Cymru i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif?"
Aeth ymlaen i ddweud y gallai CBAC fod wedi cyfaddawdu rhywfaint wrth ddewis prif weithredwr newydd: "Wnaethon nhw ddim gwneud y Gymraeg yn hanfodol pan hysbysebwyd y swydd, ond gallen nhw fod wedi mynnu fod y person, o fod yn ddi-Gymraeg, yn mynd ati o ddifri' i ddysgu'r Gymraeg."
Wrth ymateb i gwestiwn gan Cymru Fyw a fyddai Mr Gillespie yn dysgu Cymraeg, dywedodd CBAC: "Mae cyfran fawr o staff CBAC, gan gynnwys nifer sylweddol o'r uwch dîm rheoli yn gallu siarad Cymraeg, ac mae CBAC yn gyflogwr sy'n cefnogi pob aelod o staff sydd am ddatblygu neu wella ei sgiliau iaith drwy ein rhaglen hyfforddiant mewnol a mentora."
Dywedodd Mr Stockley ei fod yn gobeithio y byddai bwrdd cyfarwyddwyr CBAC "yn pwysleisio'r pwysigrwydd i'r prif weithredwr newydd yma i ddysgu'r iaith - i fynd ati o ddifri, ac i ymwneud â rhanddeiliaid addysg ddwyieithog a Chymraeg yng Nghymru yn ogystal â phawb arall yng Nghymru, ac yn ogystal hefyd â chynyddu'r farchnad yn Lloegr".
Cwestiynodd Mr Stockley hefyd flaenoriaethau CBAC: "Dwi'n deall pa mor bwysig yw'r farchnad yn Lloegr - mae'n fwy na hanner busnes CBAC falle - ond nhw yw prif gorff arholi, unig gorff arholi Cymru erbyn hyn gyda'r gwahaniaeth cymwysterau. Maen nhw wedi gorfod sefydlu Eduqas.
"Mae Eduqas yn gorff ar gyfer Lloegr, felly mae 'na ddau gorff fan hyn nawr, ac ai cynyddu'r farchnad yn Lloegr yw'r unig strategaeth sydd ganddyn nhw? Dyna sut mae'n ymddangos i fi."
Pryderu am batrwm
Mae Heledd Gwyndaf o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn pryderu fod penodi pobl di-Gymraeg yn batrwm o fewn sefydliadau addysg yng Nghymru.
"Dylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol, mae 'na restr hir o sgiliau sy'n hanfodol mae'n siŵr. Pam mai'r Gymraeg sy'n gorfod rhoi, tra bo sgiliau eraill falle fydde ddim gyda pherson sy'n trio, sy'n llawer haws i'w dysgu a'u magu na dysgu iaith newydd.
"Mae pennaeth Cymwysterau Cymru yn ddi-Gymraeg, mae pennaeth Cyngor Gweithlu Cymru yn ddi-Gymraeg, nawr mae pennaeth CBAC yn ddi-Gymraeg.
"Mae e hefyd yn treiddio i sefydliadau eraill - mae pennaeth Cyngor Gofal Cymru, pennaeth Amgueddfa Cymru, pennaeth y gwasanaeth sifil yn ddi-Gymraeg. Mae'r rhain yn gyrff Cymreig, ddim cyrff Lloegr sydd yn gweithredu yng Nghymru, ac ry'n ni'n poeni yn fawr am y patrwm hwn."
Ychwanegodd Ms Gwyndaf fod hyn yn "hollbwysig... yn enwedig nawr ein bod ni'n symud at filiwn o siaradwyr Cymraeg".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2017