£35m ar fesurau i helpu'r GIG dros y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,

Bydd parafeddygon arbenigol a nyrsys iechyd meddwl yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans

Mae mwy o arian i gadw cleifion allan o ysbytai, cynyddu capasiti gofal dwys a thalu i'r Groes Goch gefnogi cleifion mewn unedau brys ymysg y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i baratoi'r GIG ar gyfer y gaeaf.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bydd y cynlluniau'n helpu i ddarparu "gwasanaethau gwydn" wedi un o'r gaeafau anoddaf yn hanes y gwasanaeth y llynedd.

Dywedodd Mr Gething wrth ACau bod y GIG wedi wynebu "pwysau digynsail" o ganlyniad i eira ac amodau rhewllyd.

Ychwanegodd bod hyn wedi arwain at fwy o alw am feddygon teulu a gofal brys, cynnydd yn nifer y cleifion fu'n rhaid mynd i'r ysbyty, a mwy o achosion o ffliw nac yn unrhyw aeaf ers 2009.

Dywedodd bod gwersi wedi'u dysgu o'r llynedd, a bod y cynlluniau ar gyfer y gaeaf eleni yn adlewyrchu hynny.

Beth fydd yn wahanol eleni?

  • £35m yn ychwanegol i'r GIG ei hun - £5m i wasanaethau gofal dwys, £10m i ofal cymdeithasol ac £20m i'r GIG i weithio ar raglenni gyda phartneriaid;

  • £4m i'r Groes Goch i ariannu 50 o staff a gwirfoddolwyr i weithio mewn saith uned frys ledled Cymru;

  • Ymestyn cynllun peilot y Gwasanaeth Ambiwlans, ble mae 10 parafeddyg arbenigol yn gweithio ar draws gogledd Cymru. Bydd 10 yn y de a 10 arall yn y canolbarth a'r gorllewin y gaeaf hwn;

  • Nyrsys iechyd meddwl yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans i ateb galwadau;

  • Ymgyrch i amlygu'r mathau o driniaeth sydd ar gael i gleifion y tu allan i feddygfeydd.