Dyfodol ffordd liniaru'r M4 dal yn nwylo Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru ym mis Rhagfyr

Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud ei fod dal yn bwriadu penderfynu os gaiff ffordd liniaru'r M4 ei adeiladu neu ddim cyn iddo ymddiswyddo ym mis Rhagfyr.

Mae rhai Aelodau Cynulliad Llafur eisiau gweld olynydd Carwyn Jones yn penderfynu ar ddyfodol y cynllun.

Ond dywedodd Mr Jones ei fod yn disgwyl derbyn yr wybodaeth angenrheidiol er mwyn gallu gwneud y penderfyniad erbyn diwedd y mis.

Ar hyn o bryd mae gweision sifil yn dadansoddi cynnwys adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru i'r de o Gasnewydd.

Ar ôl i Mr Jones benderfynu ar ddyfodol y cynllun, bydd pleidlais ystyrlon yn cael ei gynnal yn y Cynulliad.

Roedd disgwyl cynnal y bleidlais ar 4 Rhagfyr - deuddydd cyn i'r blaid lafur gyhoeddi enillydd yr etholiad ar gyfer arweinydd nesaf y blaid.

Bydd y Prif Weinidog newydd wedyn yn dechrau'r swydd yr wythnos ganlynol.

Ar hyn o bryd, nid yw gweinidogion wedi nodi dyddiad pendant ar gyfer y bleidlais.

'Penderfyniad erbyn diwedd y mis'

Dywedodd Mr Jones: "Y cynllun yw i mi wneud y penderfyniad.

"Rydyn ni wedi derbyn adroddiad yr ymchwilwyr. Mae'n fwy na 500 tudalen felly mae hi'n cymryd sbel i ystyried a dadansoddi'r ddogfen yn gyfreithiol.

"Dydw i heb weld yr adroddiad eto, ond dwi'n disgwyl y bydd yr adroddiad yn barod i mi allu gwneud penderfyniad erbyn diwedd y mis."