Ffigyrau: Llai o ddisgyblion yn astudio cerddoriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gostyngiad mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sy'n astudio Cerddoriaeth fel pwnc Safon Uwch a TGAU, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Fe wnaeth nifer y disgyblion a safodd arholiad Safon Uwch yn y pwnc eleni haneru o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, ac fe wnaeth 42% yn llai sefyll arholiad TGAU.
Yn ôl y soprano Elin Manahan Thomas mae yna ddiffyg parch tuag at gerddoriaeth yn gyffredinol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gostyngiad o 12% wedi bod yn y nifer sy'n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yn gyfan gwbl.
Mae'r ffigyrau yn dangos bod 370 o ddisgyblion wedi sefyll arholiad Safon Uwch mewn Cerddoriaeth ym mis Mehefin eleni.
Yn haf 2008 fe wnaeth 737 o ddisgyblion gwblhau'r arholiad.
Yn ogystal â hynny, mae'r nifer wnaeth sefyll arholiad TGAU Cerddoriaeth wedi disgyn o 3,779 i 2,201 yn ystod yr un cyfnod.
'Llai o barch'
Yn ôl y soprano o Abertawe, Elin Manahan Thomas, mae'r ffigyrau yn bryder, gyda "llai o barch" at Gerddoriaeth fel pwnc.
"Does 'na ddim teimlad eu bod nhw'n anghenrheidiol ac wrth gwrs maen nhw," meddai.
"Dwi wedi cael digon mewn ffordd o orfod cyfiawnhau cerddoriaeth mewn ffordd gwyddonol: 'Mae'n helpu chi i ganolbwyntio, mae'n helpu chi neud hyn a hyn' - wrth gwrs bod e!
"Mae'n llesol, ond yn fwy na dim mae'n greadigol, ac mae'n mynd at ran o'n enaid ni bydd dim byd arall yn ei gyrraedd."
Astudiodd Ms Thomas Cerddoriaeth fel pwnc Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe, a dywedodd bod nifer yn ystyried y pwnc yn un "elitaidd" am fod prynu offerynau'n gostus.
"Licen i weld system le mae pawb mewn ysgol yn gallu chwarae unrhyw offeryn, bod ysgolion falle ag offerynnau maen nhw'n gallu rhoi benthyg i'w plant a digon o athrawon i'w dysgu nhw."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni symud ein ffocws 'nôl nawr er mwyn hybu pobl ifanc, rhoi iddyn nhw'r hyder i deimlo bod e'n beth gwych o fod yn gerddor a bod dim byd yn bod a gwneud rhywbeth sydd yn bleserus.
"Mae'n hyfryd i 'neud cerddoriaeth, boed canu neu ddawnsio, neu gyfansoddi, neu chwarae. Pam na allwn ni hybu hwnna a chreu pobl ifanc sy'n gyflawn ac hefyd yn hapus?"
Atgyfnerthu rôl y celfyddydau
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae gostyngiad o 12% wedi bod yn y nifer sy'n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yn gyffredinol.
Fodd bynnag, pwysleisiodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi "ymrwymo i roi i ddysgwyr brofiadau ym maes y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, a hynny fel rhan o gwricwlwm eang a chytbwys".
"Bydd y cwricwlwm newydd, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, hefyd yn atgyfnerthu rôl bwysig y celfyddydau mewn addysg.
"Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru wrth gyflawni Cynllun y Celfyddydau a Dysgu Creadigol 2015-2020 - rhaglen gwerth £20m sy'n cefnogi ysgolion i ddefnyddio creadigrwydd ar draws y cwricwlwm i wella cyrhaeddiad, cynyddu dyheadau ac i ysbrydoli dysgwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2016