Plentyn â gwn: Dim cosb i weithiwr gofal o ogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Bachgen ifancFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd gweithiwr gofal plant wnaeth ddarganfod bod gan berson ifanc dan ei gofal wn yn wynebu camau disgyblu.

Daeth gwrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru i'r canlyniad y dylai Catrin Davies, 25, fod wedi gweithredu'n gynt pan ddaeth o hyd i'r arf.

Roedd Ms Davies yn cludo bachgen 15 oed o gartref gofal yn Wrecsam i gartref ei nain yn Newcastle fis Ebrill llynedd.

Clywodd y gwrandawiad nad oedd hi wedi dweud wrth yr heddlu, na chwaith staff eraill y cartref gofal tan bedair awr ar ôl cyrraedd Newcastle.

Dywedodd cadeirydd y panel, David Kyle, nad oedd Ms Davies wedi gweithredu'n amserol, a bod ganddi "gyfrifoldeb i adrodd hynny at yr heddlu".

Er i Mr Kyle dderbyn bod y digwyddiad wedi bod yn un anodd iddi, dywedodd y dylai Ms Davies fod wedi dweud wrth yr heddlu unwaith i'r bachgen adael ei gofal.

Daeth y panel i'r canlyniad nad oedd ei gallu i weithio wedi ei effeithio, ac felly ni fyddai'n wynebu camau disgyblu.