Cyfres yr Hydref: Cymru 74-24 Tonga
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth gysurus i dîm Cymru yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn wedi iddynt sgorio deg cais yn erbyn Tonga.
Roedd y Cymry ar dân ar y dechrau ac roedd yna sgôr buan wrth i'r tîm cartref gael cais cosb a dau gais arall - y naill gan Dan Biggar a'r llall gan Liam Williams - o fewn y chwarter cyntaf.
Roedd yna dri phwynt hefyd i Tonga wedi naw munud o ganlyniad i gôl gosb a chais arall i Gymru (Dan Biggar) wedi 21 munud.
Ond cyn hanner amser roedd yna ddau gais i'r ynyswyr wrth iddyn nhw godi momentwm ac wrth i Gymru droseddu. Y sgôr ar yr hanner oedd Cymru 24-17 Tonga.
O fewn munudau mewn i'r ail hanner roedd y sgôr yn gyfartal wrth i'r ymwelwyr sgorio cais arall ond yn fuan roedd yna gais i Gymru gan Steff Evans ac wedi trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 31-24.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cig gosb wedyn gan Dan Biggar a chais yr un i ddilyn gan Tomos Williams a Tyler Morgan yn cynyddu pwyntiau Cymru i 46-24. Dyma gais cyntaf Tyler Morgan i'r tîm cenedlaethol.
Erbyn diwedd yr ail hanner roedd Cymru mewn rheolaeth lwyr o'r gêm ac wedi 65 munud cafodd pwyntiau Cymru eu hymestyn ymhellach (53-24) wedi cais gan Cory Hill a chicio llwyddiannus gan Rhys Patchell.
Ond roedd yna ddau gais arall - yr wythfed i Gymru gan Aled Davies a'r nawfed gan Rhys Patchell. Y sgôr felly yn 67-24 wedi 74 munud.
Cyn diwedd y gêm cais arall i Liam Williams a'r sgôr terfynol oedd 74-24
Roedd Tonga yn chwarae mewn coch ddydd Sadwrn tra bod Cymru yn chwarae yn eu dillad oddi cartref.
Dan Biggar oedd seren y gêm.
Dydy Cymru erioed wedi colli yn erbyn Tonga, a mae buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn golygu mae hon yw'r wythfed fuddugoliaeth yn olynol i'r tîm cartref.
Ddydd Sadwrn nesaf bydd Cymru yn wynebu De Affrica a hon fydd gêm olaf Cyfres yr Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2018