Cyngor i deithwyr cyn gêm rygbi Cymru v Tonga
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y bydd rhai strydoedd ar gau unwaith eto ddydd Sadwrn wrth i gefnogwyr rygbi ymweld â'r brifddinas.
Bydd Cymru'n herio Tonga yn nhrydedd gêm Cyfres yr hydref am 14:30 yn Stadiwm Principality.
Mae giatiau'r stadiwm yn agor am 11:30, a'r bwriad yw cau'r holl ffyrdd yng nghanol y ddinas rhwng 11:00 a 17:30.
Ond os nad yw'r strydoedd mor brysur â'r disgwyl am 11.00, yna bydd y cyngor yn oedi cyn cau'r ffyrdd.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd a dylai'r rhai sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm ddod mor gynnar â phosibl.
Mae cefnogwyr yn cael eu cynghori i adael digon o amser er mwyn teithio ac i osgoi dod â bagiau mawr i'r safle, gan y bydd mesurau diogelwch uwch yn weithredol yn y stadiwm.
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau'n gynnar er mwyn paratoi Gât 5 y stadiwm ac er mwyn diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Am restr lawn o'r strydoedd fydd yn cael eu heffeithio ewch i wefan Cyngor Caerdydd., dolen allanol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2018