Sut mae cadw perthynas dda wrth wahanu?

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgaru yn un o brofiadau mwyaf poenus bywyd i lawer, gyda 42% o briodasau yng Nghymru yn gorffen mewn ysgariad. Mae'r gyfraith wedi newid eleni er mwyn gwneud ysgaru yn haws os nad oes gobaith i'r berthynas.

Mae'r actores Gwen Ellis wedi gweithio fel cwnselwr perthynas a theulu i Relate yng ngogledd Cymru ers 15 mlynedd ac mae'n ymddangos mewn rôl cwnselwr ar raglen Gwesty Aduniad ar S4C ar hyn o bryd.

Mae hi'n siarad â Cymru Fyw ynglŷn â sut i ymdopi yn ystod ysgariad a sut i gadw perthynas dda pan yw'r briodas wedi methu.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwen i'w gweld mewn rôl cwnselwr ar Gwesty Aduniad ar S4C

Beth yw'r problemau cyffredin sy'n achosi i gyplau ysgaru?

Mae lot o bobl yn meddwl taw affair yw'r rheswm pennaf ac mae lot yn ysgaru oherwydd affair. Ond fel arfer mae affair yn digwydd oherwydd bod rhywbeth ddim yn iawn gyda'r berthynas. Mae pethau wedi mynd yn stale, dyw pobl ddim yn rhoi digon o amser ac ymdrech i'r briodas oherwydd bywyd - mae plant yn cyrraedd ac rydyn ni'n canolbwyntio mwy ar y plant nag ar y berthynas. Mae'n bwysig iawn i ganolbwyntio ar y berthynas.

Mae cyplau ifanc yn dweud 'dydyn ni ddim yn siarad gyda'n gilydd', 'da ni ddim yn cael amser'. Mae blynyddoedd ers iddyn nhw fynd allan gyda'i gilydd ac mae affair yn digwydd.

Ond mae pobl yn medru gweithio trwy affair. Mae pobl yn medru sylweddoli pam ei fod wedi digwydd. Mae'n brifo'n ofnadwy ond mae perthynas yn medru bod yn gryfach fel canlyniad.

Anghytuno am arian a magu plant

Mae anghytuno am arian hefyd yn rheswm cyffredin dros ysgaru - sut mae rhywun yn gwario arian, pwy sy'n dod â arian i'r tŷ. Mae work-life balance hefyd yn rheswm - mae'r deinameg yn newid lot pan fo pobl sy'n gweithio oddi cartref yn dod yn ôl am gyfnod byr. Mae hynny'n medru bod yn anodd.

Yn aml 'dyw cyplau ddim yn cyd-fynd ynglŷn â sut mae magu plant. Pan mae'r plant yn cyrraedd mae'r ffocws ar y plant. Gall un aelod o'r bartneriaeth deimlo allan ohoni achos hynny.

Mae ysgaru yn aml yn digwydd pan fo'r plant wedi gadael y cartref neu pan mae pobl wedi ymddeol - 'Dydyn ni ddim wedi arfer bod gyda'n gilydd 24/7'. Mewn achosion felly fedrwn ni helpu ond weithiau mae'r craciau wedi digwydd blynyddoedd yn ôl a gwahanu ydy'r peth gorau i wneud.

Ein moto ni yw 'da ni'n meithrin perthnasau iach' a falle taw gwahanu yw'r peth iach i wneud.

Beth sy'n gwneud ysgariad mor anodd?

Fel arfer un sy' eisie ysgaru. Maen nhw wedi bod yn meddwl am y berthynas ers sbel, 'falle blynyddoedd. Mae'r llall yn meddwl bod pob dim yn iawn. Mae hynny'n gwneud i ti ofyn faint o gyfathrebu sy'n mynd 'mlaen yn y berthynas, sy'n dorcalonnus. Mae un yn dweud 'oen i'n meddwl bod ein perthynas ni'n wych' ac mae'r llall yn dweud 'sori, dydy e ddim yn gweithio'. Felly'r gwaith ydy helpu nhw i weld be sy' wedi digwydd i roi'r ddau ohonynt mewn pegynau ar wahân.

Gwaith cwnselwr yw helpu pobl i wrando ar ei gilydd.

Ac mae'n bosib fod un partner yn gadael i fod gyda rhywun arall. Mae'n boenus i'r ddau. Mae 'na lot o euogrwydd ynglŷn â gadael y briodas achos ti'n effeithio ar y teulu ti'n gadael, y plant a dy gyn-ŵr neu wraig.

'Proses o alaru'

Pan fo'r briodas yn methu mae person yn mynd drwy broses o alaru. Yr un fath yw'r teimladau a phan fo rhywun yn marw ond ei fod yn fwy annelwig oherwydd dy fod yn galaru perthynas.

Mae'n ofnadwy o gymhleth.

Sut all cwpl gadw'r ysgariad rhag fod yn rhy boenus?

Byddwch mor dryloyw a charedig efo'ch gilydd a phosib. Parchwch bod y berthynas yn newid. Weithiau mae'r partner sy' ddim eisiau gwahanu yn mynd i ymateb mewn ffordd hollol afresymol achos bod nhw wedi brifo.

Beth all cwpl wneud i gadw'r ysgariad rhag fod yn rhy boenus i blant?

Mae plentyn yn gallu mynd gam yn ôl o ran datblygiad pan fo ysgariad yn digwydd.

Mae'n beth da bod chi'n dweud wrth y plant efo'ch gilydd. Mae angen cytuno o flaen llaw beth chi'n mynd i ddweud. Mae'n bwysig i beidio lladd ar y llall, er mor anodd ydy e i beidio. Mae'n bwysig iawn i'r plant sylweddoli taw nid eu bai nhw ydy o bod mam a dad yn gwahanu.

Peidiwch dweud pethe fel 'ti'n union fel dy dad /dy fam', pethe mor hawdd i ddweud am eich bod dan straen. Trïwch weld y sefyllfa o safbwynt y plentyn.

'Peidiwch â defnyddio'r plant fel llatai'

Beth 'dw i'n gweld lot ohono yw fod y plant yn tyfu i fyny i fod yn rhieni i'r rhieni sy'n ysgaru. Peidiwch â defnyddio'r plant fel llatai.

Trïwch bod yn sifil, mae'n help i fynd i wasanaeth cyfryngu (mediation) lle 'dach chi'n sôn am bethau fel 'sut ydyn ni'n mynd i 'neud y trefniadau, pwy sy'n mynd i weld y plant a phryd, sut ydyn ni'n mynd i rannu'r arian?'

Ar ôl dweud hynny mae plant yn gallu bod yn hyblyg iawn. Cyn belled fod gen ti un set o rheolau mewn un tŷ, mi fedri di gael set o reolau gwahanol yn nhŷ'r rhiant arall. Ac mae hynny'n iawn.

Un peth positif - dw i'n cofio gwneud coeden deulu estynedig efo hogan ifanc ac roedd lot o berthnasau wedi torri lawr yn ei theulu. Roedd 'na gymaint o linellau lliw yn mynd i aelodau estynedig o'r teulu, roedd yn hyfryd i'r plentyn weld fod cymaint o bobl yn ei bywyd hi oedd ddim yn deulu gwaed ond oedd yn ei charu hi. Mae hwnna wedi aros yn fy nghof.

Cyngor am sut i gadw perthynas dda

  • Ewch i weld cwnselwr, naill ai ar ben eich hun neu efo'ch partner achos ni'n cynnig gofod diogel er mwyn cynnal y sgyrsiau anodd.

  • Edrychwch ar ôl eich hun - os ydy bywyd yn edrych yn ddu, gofynwch am help gan deulu neu ffrindiau.

  • Chwiliwch am gyngor - yn anffodus mae lot o bobl wedi bod trwy brofiad tebyg. Mae 'na hefyd lot o fforyms arlein lle mae pobl yn rhannu profiadau.

  • Cofiwch am les y plant. Os oes plant, mae'n bwysig cyfathrebu gyda'ch gilydd er eu lles nhw. Cadwch at y trefniadau a pheidiwch â gadael y plant i lawr.

  • Cofiwch taw proses o alaru ydy e ac mae 'na ddiwedd i'r peth. Pan chi'n galaru mae lot o wahanol emosiynau - dicter, tristwch, gwadu, bargeinio - a gall gymryd blwyddyn neu ddwy go lew.

Mwy ar Cymru Fyw

Cymorth pellach