Morgan yn lansio ei maniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Eluned Morgan am weld disgyblion ysgolion uwchradd yn derbyn teclynnau tracio ffitrwydd er mwyn taclo gor-dewdra pe byddai hi'n arwain Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth Ms Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, gyhoeddi ei maniffesto ar gyfer brwydr arweinyddiaeth Llafur Cymru ddydd Llun.
Yn ogystal â iechyd cyhoeddus fe roddodd sylw blaenllaw i'r economi.
Yn ystod y lansiad dywedodd y gallai Brexit olygu y bod yn rhaid ailfeddwl holl gynlluniau Llywodraeth Cymru hyd etholiadau'r cynulliad yn 2021.
Dywedodd pe bai yn olynu Carwyn Jones, yna byddai'n dechrau ar y gwaith o gynnal arolwg llawn o raglen y Llywodraeth.
Fe wnaeth y papurau pleidleisio i aelodau Llafur gael eu hanfon ar 9 Tachwedd, a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr.
Yr economi, meddai Ms Morgan, fyddai'n cael ei phrif flaenoriaeth.
Dywedodd hyd yn hyn nad oedd Llafur wedi gwneud digon o argraff ar yr economi ers dechrau'r cyfnod datganoli.
Roedd o'r farn y gallai technoleg gael ei ddefnyddio i helpu plant yn eu harddegau "fagu hoffter o ffitrwydd fydd yn eu helpu drwy gydol eu hoes."
Ychwanegodd y byddai plant ysgolion cynradd yn cael eu hannog i redeg milltir pob diwrnod - rhywbeth y mae llywodraeth Cymru eisoes yn ei annog.
Wrth siarad ar lansiad ei maniffesto mewn coleg yng Nglyn Ebwy dywedodd ei bod am "ysgwyd pethau yn y Cynulliad."
"Y cwestiwn i aelodau Llafur yw pwy maen nhw am weld yn ymgyrchu gyda nhw? Pwy maen nhw am weld yn y seddi ymylol, yn ennill pleidleisiau?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018