Drakeford am wahardd ysmygu mewn canol trefi a dinasoedd

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd maniffestro Mark Drakeford ei gyhoeddi yn Y Barri ddydd Llun

Gall ysmygu gael ei wahardd mewn canol trefi a dinasoedd pe bai Mark Drakeford yn cael ei ethol fel Prif Weinidog Cymru.

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi cynnwys y cynlluniau yn ei faniffesto gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun.

Ar hyn o bryd mae ysmygu wedi ei wahardd dan do mewn mannau cyhoeddus, ond hoffai Mr Drakeford weld y gwaharddiad yn cael ei ymestyn i du allan i gaffis a bwytai hefyd.

Yn ôl arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Gareth Bennett, byddai gwaharddiad o'r fath yn "afresymol".

Fe geisiodd Mr Drakeford gyflwyno gwaharddiad rhannol ar e-sigarennau yn 2016, ond methodd y ddeddf ar ôl i aelodau Plaid Cymru dynnu eu cefnogaeth yn ôl.

Mae'r maniffesto, gafodd ei gyhoeddi yn Y Barri, yn gobeithio "ymestyn y gwaharddiad i du allan i gaffis a bwytai yn ogystal â chanol trefi a dinasoedd".

'Cyfle nid hawl'

Hefyd wedi'u cynnwys yn y maniffesto mae cynlluniau i gyflwyno ffynhonnau dŵr ledled Cymru, a gwneud cyswllt band eang cyflym yn orfodol ar gyfer cartrefi newydd.

Nid oes sôn am ffordd liniaru'r M4 yn y ddogfen, ond mae'n nodi y byddai'r llywodraeth yn "parhau gyda'r ymrwymiad i daclo traffig trwm, yn enwedig mewn ardaloedd fel yr A55 yn ogledd Cymru, yr A40 yng nghanolbarth a gorllewin Cymru a'r M4 yn y de".

Ychwanegodd Mr Drakeford yn y ddogfen: "Mae bod mewn pŵer yn gyfle, nid hawl.

"Mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob diwrnod a phob lifer sydd gennym ni er mwyn gwneud Cymru yn wlad fwy cyfartal, teg a chyfiawn."