'Llai o blant o ardaloedd tlawd yn gwneud chwaraeon'
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg mewn ysgolion yn dangos fod y bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf a lleiaf breintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf.
Ond, mae hefyd yn dangos fod plant gydag anableddau neu sydd o gefndiroedd ethnig yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn aml.
Mae Chwaraeon Cymru wedi dweud y bydden nhw'n gweithio ar welliannau dros yr 18 mis nesaf.
Mae tua 120,000 o blant rhwng saith ac 16 oed, ac athrawon mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi cymryd rhan mewn ymchwil sy'n edrych ar weithgaredd chwaraeon, iechyd a lles.
Fe wnaeth yr ymchwil ddangos fod:
Plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r ysgol dros dair gwaith yr wythnos wedi aros yr un peth ers 2015 - 48%;
Anghyfartaledd rhwng bechgyn a merched yn parhau;
Rheiny o ardaloedd difreintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon mwy na thair gwaith yr wythnos wedi gostwng i 42% o 43% yn 2015;
Gwahaniaeth ymwneud mewn gweithgareddau rhwng plant o ardaloedd mwya' tlawd a'r mwyaf cyfoethog wedi cynyddu 13%;
40% o ddisgyblion o dras Brydeinig/Asiaidd - sydd fel arfer y grŵp ethnig sy'n cymryd rhan lleiaf - wedi dweud eu bod nhw'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn amlach;
45% o ddisgyblion gydag anableddau neu amhariad wedi dweud eu bod nhw'n cymryd rhan yn amlach mewn gweithgareddau chwaraeon.
Mae chwaraeon Cymru wedi dweud y bydden nhw'n gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff chwaraeon dros yr 18 mis nesaf er mwyn deall y rhesymau y tu ôl i'r cwymp.
Dywedodd pennaeth polisi a mewnwelediad Chwaraeon Cymru, Owen Hathway: "Mae'n galonogol gweld cynnydd mewn niferoedd."
Ychwanegodd fod llawer wedi'i gyflawni gan Chwaraeon Anabledd Cymru a BME Sport Cymru i weithio mwy gyda grwpiau o bobl leol.
Er bod y gweithgarwch cyffredinol wedi parhau'n sefydlog ers yr arolwg diwethaf, mae'r mwynhad o chwaraeon o fewn a thu allan i ysgolion wedi gostwng.
Dywedodd prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: "Heb hyn, does dim gobaith iddyn nhw [disgyblion] gael perthynas hir dymor positif gyda chwaraeon."
Daeth yr arolwg i gasgliad fod 99 munud yr wythnos ar gyfartaledd wedi'i neilltuo i addysg gorfforol mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae hyn yn is na'r 120 munud sy'n cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru.
Fe wnaeth 96% o'r disgyblion a holwyd ddweud y buasent nhw'n dymuno gwneud mwy o chwaraeon.
Ychwanegodd Ms Powell y byddai'n gweithio gydag ysgolion gan gynnwys edrych ar gyflwyno llai o chwaraeon traddodiadol yn y cwricwlwm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017