Arian ychwanegol i rai cynghorau
- Cyhoeddwyd
Bydd rhai awdurdodau lleol a gafodd eu taro galetaf oherwydd toriadau i'w cyllidebau gan Lywodraeth Cymru y tymor nesaf yn derbyn mwy o arian.
Roedd Cynghorau Sir Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Powys, Sir Fynwy a Gwynedd yn wynebu toriadau o 1%.
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn rhoi £14.2m yn ychwanegol i'r prif grant, gan olygu na fydd yr un cyngor ar ei golled o fwy na 0.5%.
Er hynny mae arweinwyr cynghorau yn dweud y bydd eu sefyllfa ariannol yn parhau yn "heriol".
Roedd y cynghorau wedi gofyn am fwy o arian wedi'r cyhoeddiad gwreiddiol o doriadau ym mis Hydref.
'Gwelliant sylweddol'
Dywedodd Mr Drakeford y bydd £13m yn ychwanegol yn mynd i brif ffynhonell arian y cynghorau yn 2019-20 gyda £1.2m yn ychwanegol er mwyn sicrhau nad oes yr un cyngor ar ei golled o fwy na 0.5%.
Cyhoeddodd hefyd y bydd £6m ar gael yn y flwyddyn ariannol presennol i gynorthwyo cynghorau Cymru gyda'r gost o lanhau ar ôl Storm Callum.
Daw ei gyhoeddiad yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU lle cafodd £550m ychwanegol ei gyhoeddi i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Debbie Wilcox bod y cyhoeddiad yn "welliant sylweddol i'n trafodaethau" gyda Llywodraeth Cymru.
Ond ychwanegodd: "Does dim amheuaeth fod hwn yn parhau yn setliad ariannol heriol wedi wyth mlynedd o lymder. Yn benodol, dyw'r pwysau ar ysgolion a chyflogau athrawon yn ogystal â chostau pensiwn anferth yn dal heb ei ddatrys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018