Teyrngedau i'r actor Robert Blythe
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actor Robert Blythe, fu farw ddydd Mawrth yn 71 oed.
Wedi ei fagu ym Mhort Talbot, un o'i rannau mwyaf adnabyddus oedd ei bortread o Fagin yn y gyfres gomedi High Hopes.
Ymddangosodd mewn nifer o gyfresi teledu, gan gynnwys The Lifeboat, Casualty ac A Poet in New York, a ffilmiau fel The Englishman Who Went Up A Hill But Came Down A Mountain, Rebecca's Daughters a There Be Dragons.
Cafodd yrfa hir ar lwyfan hefyd, gan berfformio mewn nifer o ddramâu i Theatr Clwyd a'r Theatr Genedlaethol yn Llundain.
'Ffrind agos'
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd yr actor ac awdur High Hopes, Boyd Clack, ei fod wedi colli ffrind agos, gan ei ddisgrifio fel dyn "ffraeth, swynol ac urddasol".
Perfformiodd yr actores Sharon Morgan gyda Robert Blythe ar fwy nag un achlysur, a bu'n rhannu ei hatgofion ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Trist iawn clywed am farwolaeth Bob Blythe," meddai.
"Chwaraeon ni ŵr a gwraig droeon - yn y drioleg Snow Spider, Gwynfor Evans a Rhiannon, yn y ffilm Love is Thicker Than Water. Actor gwych."
'Un o'n hactorion comedi gorau'
Dywedodd Paul Forde, Cyfarwyddwr Comisiynu Comedi BBC Cymru: "Roedd Robert yn un o'n hactorion comedi gorau.
"Dros gyfnod o chwe chyfres a nifer o benodau arbennig, parhaodd i ddifyrru cynulleidfaoedd gyda'i bortread hynod ddoniol o 'Fagin' Hepplewhite.
"Roedd e wastad yn hollol broffesiynol, y cast a'r criw yn ei garu, a bydd colled ar ei ôl."
Bu Robert Blythe yn briod â'r actores Iola Gregory, ac fe gawson nhw ddwy ferch, yr actores Rhian Blythe, a'r cynhyrchydd teledu Angharad Blythe.
Yn ddiweddarach, priododd Naomi Blythe, ac fe gawson nhw ddau fab, Sam a Jack Blythe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017