Astudio cerrig dros 300 miliwn blwydd oed ar Y Fenai
- Cyhoeddwyd

Roedd trigolion lleol yn pryderu bod y rig ger Y Fenai yn rhan o gynllun i ddrilio am olew neu i ffracio
Mae daearegwyr yn gallu archwilio cerrig sydd dros 300 miliwn o flynyddoedd oed am y tro cyntaf yn sgil gwaith sy'n cael ei wneud i asesu'r posibilrwydd o roi ceblau i gludo trydan dan Afon Menai.
Drwy ddefnyddio rig, y bwriad yw tyllu i ddyfnder o 50 metr i gasglu samplau o wely'r môr.
Roedd presenoldeb y rig ar lan Y Fenai wedi drysu rhai trigolion ers wythnosau, gyda nifer yn holi a oedd unrhyw gynlluniau i ddrilio am olew neu ffracio.
Bydd y samplau sy'n cael eu casglu yn fodd i'r Grid Cenedlaethol asesu daeareg ac yn fodd i ddaearegwyr ddysgu am hanes yr ardal.
Nid yw daearegwyr wedi cyrraedd y darn hwnnw o wely'r môr o'r blaen am ei fod yn rhy gostus.

Mae'r creigiau dan y Fenai dros 300 miliwn o flynyddoedd oed
O'u gosod ochr wrth ochr mae yna dros un cilomedr o samplau cerrig wedi eu codi.
Fe fydd y canfyddiadau yn cynorthwyo'r Grid Cenedlaethol i leoli'r twnnel, petaent yn penderfynu ar yr opsiwn hwnnw.
Opsiwn arall sydd hefyd yn cael ei hystyried yw gosod y ceblau ar y bont newydd arfaethedig.
Yn y cyfamser, mae'r Grid Cenedlaethol yn parhau i ymchwilio i'r bwriad gwreiddiol i gladdu'r ceblau o dan Y Fenai.
Bydd Arolygaeth Gynllunio annibynnol yn adolygu'r cynllun cyn bydd modd i'r Grid Cenedlaethol ddod i benderfyniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Mai 2018