Dod o hyd i gerbyd rhyfel Celtaidd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
A photo of the two chariot wheelsFfynhonnell y llun, Mike Smith

Mae dyn oedd yn defnyddio datgelydd metel yn credu iddo ddod o hyd i domen gladdu Geltaidd arbennig yn y gorllewin.

Cred Mike Smith fod y bedd ar gyfer cerbyd rhyfel - a'i fod yn safle o bwys.

Roedd hi'n arferiad i benaethiaid llwythi Celtaidd gael eu claddu gyda'u cerbyd rhyfel, eu ceffylau a hyd yn oed eu harfau.

Dywed Mr Smith ei bod yn bosib bod y bedd gerllaw pentref o'r Oes Gerrig.

Mae'r lleoliad yn gyfrinach am y tro tan y bydd archeolegwyr yn cael cyfle i archwilio'r safle yn fanwl.

Roedd Mr Smith yn archwilio'r ardal yn ne Sir Benfro ym mis Chwefror pan ddaeth o hyd i ddarn o fetal - 'broes' oedd e'n credu oedd yn dyddio o'r Canol Oesoedd.

Ffynhonnell y llun, Mike Smith
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o harnais sy'n awgrymu mai dwy ferlen fyddai wedi tywys y cerbyd rhyfel

Ond dywedodd arbenigwr wrtho nad broes oedd e ond yn hytrach ei fod yn rhan o harnais ceffyl Celtaidd oedd yn dyddio nôl i 600CC.

Fe wnaeth Mr Smith o Aberdaugleddau ddychwelyd i'r safle y diwrnod canlynol, gan ddarganfod mwy o eitemau.

"O ni'n gwybod am eu pwysigrwydd yn syth," meddai Mr Smith, sydd wedi bod yn chwilio am hen drysorau am tua 30 mlynedd.

"O ni wedi darllen am domenni claddu cerbyd rhyfel... ac mae dod o hyd i un wedi bod yn anrhydedd."

Ffynhonnell y llun, Mike Smith
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mike Smith (canol) ddychwelyd i'r safle ar ôl ei ddarganfyddiad cyntaf

Ar y dechrau dywedodd arbenigwyr wrtho eu bod yn amau ei stori.

"Ro nhw'n dweud chi yn anghywir,' meddai, "does yr un wedi ei ddarganfod yn y rhan yma o'r wlad."

Ond ym mis Mehefin fe wnaeth Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ac Amgueddfa Cymru gynnal archwiliad o'r safle.

Fe wnaeth offer radar ddangos patrwm o waliau a ffosydd oedd yn awgrymu hen bentref Celtaidd, o bosib yn fwy na Castell Henllys ger Crymych.

Fe wnaeth y cloddio cychwynnol ddod o hyd i dop olwynion cerbyd rhyfel.

Erbyn hyn mae'r tir wedi cael ei ailosod er mwyn diogelu'r safle.

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cloddio mwy eang gan archeolegwyr y flwyddyn nesa.