Achub dyn o gronfa ddŵr ger Llys y Fran yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Cronfa ddŵr Llys y FranFfynhonnell y llun, Garth Newton/Geograph

Mae dyn wedi cael ei achub o gronfa ddŵr Llys y Fran yn Hwlffordd fore Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ychydig wedi 09:30 i gronfa Dŵr Cymru.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi cael ei dynnu o'r dŵr a'i gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Yn ôl y gwasanaeth tân cafodd criwiau o Aberdaugleddau, Caerfyrddin a Hwlffordd eu gyrru i'r digwyddiad.