Lle oeddwn i: Bwyty cyntaf Bryn Williams
- Cyhoeddwyd
Mae 10 mlynedd ers i'r cogydd Bryn Williams agor ei fwyty cyntaf, Odette's, yn ardal Primrose Hill yn Llundain. Bu Cymru Fyw'n holi Bryn am y stori tu ôl i'r bwyty llwyddiannus.
O'n i'n 31 ac yn gweithio yn Odette's fel head chef pan wnes i brynu'r lle ym mis Hydref 2008.
'Nath prynu Odette's ddigwydd dros ormod o beints. (Mae lot o bethe yn y busnes hyn yn digwydd dros beint neu lased o win.) O'n i'n trafod gyda'r perchennog dros beint a 'nath o ddweud 'I'm thinking of selling, do you want to buy it?'
Oedd pobl yn meddwl mai fi oedd y perchennog beth bynnag gan 'mod i'n gwneud gwaith teledu ar y Great British Menu. Oedd pawb yn gwybod lle o'n i'n coginio felly wnaeth pob dim ddisgyn i'w lle.
Tri mis wedi'r sgwrs, fi oedd y perchennog.
Cael y goriadau
Oedd y pris wnes i dalu am y lle bwyta a'r safle... oedd o'n ddrud. Y diwrnod nes i agor y lle am y tro cyntaf, dw i'n cofio meddwl 'dyma keyring dryta' fy mywyd'.
Nos Sul pan wnes i adael y tŷ bwyta o'n i'n head chef. Y bore wedyn o'n i'n berchennog. Roedd popeth wedi newid yn syth bin. O'n i'n gorfod gwneud popeth dros nos ac oedd o'n sioc mawr i'r system. Ac oedd y dirwasgiad newydd gychwyn yn 2008. Rhwng y ddau beth, oedd hi'n chwe mis cynta' andros o galed.
Gwaith caled
O'n i'n byw mewn fflat yn Camden ar y pryd a nes i orfod ail-forgeisio'r fflat i gael y pres i brynu'r bwyty. Oedd popeth yn dynn iawn yr adeg honno.
Nes i ddim cymryd cyflog am y tair blynedd cyntaf achos o'n i isho rhoi pres yn ôl i'r busnes i newid pethau o'n i ddim yn eu hoffi fel sut oedd y lle yn edrych ac o'n i eisiau cegin newydd.
I ddechrau, oedd agor Odette's wedi ngwneud i'n weddol stressed - mae rhedeg tŷ bwyta yn lot o waith caled. Ond gwnaeth o i mi edrych ar be' sy'n bwysig a sut 'da chi'n trin pobl. Mae wedi newid y ffordd dw i'n trin ac yn siarad â phobl.
Odette's ydy popeth i mi - heb Odette's, fyddwn i ddim efo tri llyfr a dau dŷ bwyta arall.
Dw i'n gwybod 'mod i wedi gweithio'n galed yma, a dw i'n gwybod 'mod i dal i weithio'n galed yma. Mae gen i gymaint o ddiolch i Odette's.
Ond dw i'n gwybod fydda' i'n gadael y lle un diwrnod a bydd o'n ddiwrnod trist.
Dw i wastad wedi bod yn uchelgeisiol. Mae unrhywbeth yn bosib os ydy chi isho'i 'neud o a dyna'r ffordd dw i'n edrych ar fywyd.
Hefyd o ddiddordeb