Cyn bêl-droediwr yn rhoi esgidiau at elusen iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
David CotterillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth David Cotterill ymddeol ar ôl gyrfa yn chwarae i glybiau megis Bristol City, Abertawe a Birmingham

Mae cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol wedi penderfynu gwerthu'r pâr o esgidiau diwethaf iddo wisgo ar gae pêl-droed mewn ocsiwn a rhoi'r elw tuag at elusen iechyd meddwl.

Fe gyhoeddodd yr asgellwr, David Cotterill ei fod yn ymddeol o bêl-droed ym mis Hydref ac yntau'n 30 oed.

Fe enillodd 24 cap dros Gymru a sgorio dwy gôl. Roedd yn aelod o garfan Cymru ym Mhencampwriaethau Euro 2016.

Mae Cotterill ei hun wedi cyfaddef ei fod wedi dioddef gydag iselder a phoen meddwl yn y gorffennol wrth chwarae pêl-droed.

Bellach mae'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, ac mae wedi penderfynu rhoi'r elw o'r esgidiau tuag at elusen Gofal.

Mae Gofal wrthi'n datblygu cynllun sy'n cynorthwyo unigolion mewn chwaraeon ar bob lefel gyda'u hiechyd meddwl a'u lles.

'Adferiad'

Dywedodd David Cotterill: "Mae 'na bryder os yw'r rheolwr yn ymwybodol nad wyt ti'n teimlo'n iawn yn feddyliol, yna neith o ddim dy ddewis i chwarae.

"Mae hynny yn gwneud i ti gadw dy feddyliau i ti dy hun, sydd yn y pen draw yn gwneud i ti deimlo'n waeth. Dwi eisiau helpu pobl i allu siarad am y ffordd maen nhw'n teimlo" meddai.

Mae'r elusen yn cynorthwyo tua 3,000 o bobl yn flynyddol i reoli eu hiechyd meddwl ac i fyw bywyd hapusach.

Dywedodd Prif Weithredwr Gofal, Ewan Hilton: "Rwyf wrth fy modd fod David Cotterill wedi penderfynu rhoi'r elw o ocsiwn tuag at Gofal.

"Mae hi mor bwysig fod pobl o bob rhan o fywyd yn gallu teimlo eu bod nhw'n gallu rhannu eu straeon, ac mae'r ffaith fod rhywun fel David, sydd â phroffil uchel wedi gwneud hynny yn agor platfformau i bobl eraill wneud yr un peth."

Ychwanegodd David Cotterill: "Dwi wedi penderfynu rhoi fy esgidiau i Gofal am y gwaith maen nhw yn ei wneud i gynorthwyo adferiad pobl, ac o ganlyniad i'w prosiectau, sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl."