Dewis côr o Abertawe fel rhan o gynllun 'Making Music'
- Cyhoeddwyd
Côr o Abertawe yw'r unig grŵp cerddorol yng Nghymru sydd wedi cael ei gyplu gyda chyfansoddwr proffesiynol fel rhan o gynllun 'Making Music'.
Mae Côr Ffilharmonig Abertawe yn un o'r chwe ensemble cerddorol dros Brydain i gael cyfansoddwr i weithio yn benodol gyda nhw am flwyddyn.
Bydd Nathan James Dearden o Gwm Rhondda yn gweithio gyda'r côr i gyfansoddi darn, fydd wedyn yn cael ei berfformio'n fyw ar BBC Radio 3 yn 2019.
Yn ôl Catrin Alun o'r côr, mae'n fraint i fod yn rhan o'r cynllun.
Dywedodd Ms Alun: "Mae 'Making Music' ar draws y Deyrnas Unedig i gyd, felly mae bod yn un o'r 6 sydd wedi ennill yr hawl i gael cyfansoddwr yn fraint anhygoel.
"Fel mae'n digwydd mae'r cyfansoddwr yn Gymro hefyd felly mae hynny'n grêt. Mae e wedi bod yma unwaith i gyfarfod ni, i glywed ni a chael gweld beth ydy'r sain, ac wedyn bydd o'n gweithio ar y cyfansoddiad a bydden ni'n perfformio fe ymhen blwyddyn."
Ychwanegodd: "Ni'n dathlu 60 mlynedd o fodolaeth blwyddyn nesaf, sydd yn dipyn o beth. Mae'n gôr mawr, mae'n gôr o dros gant o gantorion, rhychwant oed yn enfawr, o fyfyrwyr chweched dosbarth i bobl yn eu saithdegau ac wythdegau sy'n dal yn gallu canu ac sydd dal yn gwneud sain fendigedig."
Un o Donyrefail yw Nathan James Dearden ond mae e bellach yn gweithio yn Llundain. Bydd e'n ymweld â'r côr yn Abertawe nifer o weithiau dros y flwyddyn nesaf, gan ddechrau ddydd Iau nesaf cyn perfformiad y côr o 'War Requiem' gan Benjamin Britten yn Neuadd y Brangwyn.