Cyfres yr Hydref: Cymru 20-11 De Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae buddugoliaeth Cymru o 20-11 yn golygu eu bod nhw'n gorffen Cyfres yr Hydref yn ddiguro am y tro cyntaf erioed.
Cyfunodd ceisau Tomas Francis a Liam Williams gyda throed dde Dan Biggar i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol yn Stadiwm Principality.
Er i De Affrica daro 'nol yn yr ail hanner gyda chais gan Jesse Kriel, roedd amddiffyn Cymru yn ddigon cadarn i wrthsefyll cyfnodau hir o bwysau gan yr ymwelwyr.
Dyma oedd y nawfed fuddugoliaeth o'r bron i dîm Warren Gatland, y rhediad hiraf ers 1999.
Ond, fe orffennodd y gêm ar nodyn isel ar ôl i seren y gêm, Ellis Jenkins, orfod gadael y cae oherwydd anaf.
Dyma oedd y bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i Gymru yng Nghyfres yr Hydref eleni yn dilyn canlyniadau ffafriol yn erbyn Awstralia, Yr Alban a Tonga.
Amddiffyn cadarn oedd wrth wraidd y fuddugoliaeth, a hynny dan arweiniad Ellis Jenkins, a ddechreuodd y gêm oherwydd anaf i ben elin Dan Lydiate.
Roedd perfformiadau amddiffynol Justin Tipuric a'r capten Alun Wyn Jones hefyd yn arwrol wrth i Gymru lwyddo i wrthdroi'r meddiant dro ar ôl tro.
Daeth y cais cyntaf wedi chwarae pwyllog gan y blaenwyr, cyn i Jenkins dorri drwy amddiffyn De Affrica ac yna pasio i Francis er mwyn trosi dan y pyst.
Liam Williams sgoriodd yr ail gais ar ôl chwarae celfydd gan Gareth Anscombe yn dilyn sgrym ymosodol.
Methodd Anscombe i ehangu'r fantais gyda chic gosb, gan roi'r cyfle i'r ymwelwyr daro 'nol wedi'r hanner.
Yn dilyn triphwynt gan Handre Pollard dechreuodd De Affrica reoli'r chwarae gan roi amddiffyn Cymru dan bwysau aruthrol.
Llwyddodd Jessie Kriel i drosi wedi gwaith ardderchog gan Willie Le Roux, cyn i Elton Jantjies ychwanegu cic gosb arall i'r ymwelwyr er mwyn dod a'r sgôr o fewn triphwynt.
Ond, wedi 63 munud fe ddaeth Dan Biggar i'r cae gan ychwanegu dwy gic gosb yn y 10 munud olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2018