Rhieni'n galw am gyngor cyson ar rannu gwely â babanod

  • Cyhoeddwyd
BabiFfynhonnell y llun, SPL

Mae rhieni yn galw am gyngor mwy cyson ar y ffordd fwyaf diogel i rannu gwely gyda'u babandod.

Yn ôl cyngor y Gwasanaeth Iechyd, dolen allanol ni ddylai gweithwyr iechyd fod yn erbyn y syniad yn gyfan gwbl, ond dylid rhybuddio rhieni am y peryglon posib.

Honnai rhai rhieni iddyn nhw gael eu cynghori i beidio cyd-gysgu o gwbl ac nad oedden nhw wedi cael gwybod am ddulliau mwy diogel o wneud hynny.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhieni yn derbyn cymorth i greu'r amgylchiadau gorau ar gyfer eu babanod.

Mae'r GIG yn dweud y gall cyd-gysgu gynyddu'r perygl o farwolaethau babanod, yn enwedig os oes cyfuniad gyda ffactorau eraill megis yfed, ysmygu, cyffuriau neu flinder.

'Cwbl naturiol'

Yn ôl mam i dri a chynghorydd i ferched beichiog o Gaerffili, Samantha Gadsden, mae'r cyngor i rieni ar gyd-gysgu yn gallu amrywio yn ôl barn bersonol y meddyg.

"Mae hi'n gwbl naturiol i gyd-gysgu," meddai, "dylai hi ddim bod yn fater o farn bersonol, dylai hyn fod wedi selio ar gyngor pendant."

Mae gweithwyr iechyd yn dweud y dylai babanod gael eu gosod ar eu cefnau yng nghot eu hunain heb flancedi na theganau meddal.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw'n cefnogi cyngor Llywodraeth Cymru drwy beidio â gwrthwynebu cyd-gysgu yn gyfan gwbl, ond yn annog rhieni i'w osgoi pan fo'r ffactorau risg yn berthnasol.

Disgrifiad o’r llun,

Dylai babanod gael eu gosod ar eu cefnau mewn cot heb flancedi na theganau meddal, yn ôl y Gwasanaeth Iechyd

Mae mwy na 200 o fabanod yn marw yn annisgwyl yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, fel arfer tra'n cysgu.

Yn ôl UNICEF mae tua hanner y marwolaethau hyn yn digwydd wrth gyd-gysgu â rhiant, ond roedd ffactorau risg ynghlwm â 90% o'r rhain.

Ychwanegodd yr elusen fod cysgu yn agos i riant yn gallu helpu babanod i dawelu yn ogystal â chefnogi bwydo o'r fron.

'Codi braw'

Dywedodd Ms Gadsden fod annog pobl i beidio rhannu gwely â babanod pan fo ffactorau eraill ddim yn berthnasol yn "codi braw yn ddiangen".

Yn ôl yr elusen The Lullaby Trust, mae angen yr holl wybodaeth ar rieni er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniad gwybodus eu hunain.

Bu farw 219 o fabanod yn annisgwyl yng Nghymru a Lloegr yn 2016, cynnydd o 195 yn 2015.