'Mr Criced' Dolgellau ydy Gwirfoddolwr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Gareth LanaganFfynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Er ei fod yn byw yn Aberystwyth, mae Gareth Lanagan yn gwirfoddoli yn Nolgellau

Mae athro sy'n cael ei adnabod fel 'Mr Criced' Dolgellau wedi'i enwi fel Gwirfoddolwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018.

Bydd Gareth Lanagan, sy'n dysgu Mathemateg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, yn derbyn y wobr mewn seremoni yn y Celtic Manor ar 4 Rhagfyr.

Mae'r prif hyfforddwr, capten y tîm cyntaf a'r cadeirydd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu Clwb Criced Dolgellau.

Mae'n angerddol am yr iaith Gymraeg a chwaraeon yng Ngwynedd, ac am gyflwyno'r gamp i gynulleidfaoedd newydd.

Sefydlodd dîm criced merched y llynedd ac mae wedi datblygu carfan iau lwyddiannus.

Dywedodd Mr Lanagan, sy'n byw yn Aberystwyth ond yn gweithio ac yn gwirfoddoli yn Nolgellau yn bennaf: "Mae'n braf i gael y gydnabyddiaeth.

"Ond yn benna' mae'n codi proffil Clwb Criced Dolgellau - ac mae hefyd yn dangos faint mae'r wraig yn cyfaddawdu!"

Mae'r clwb wedi'i drawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf - ychydig flynyddoedd yn ôl roedd hi'n ansicr a fyddai'r clwb yn parhau i weithredu.

Erbyn hyn mae tua 200 o chwaraewyr yn cynrychioli'r clwb.

Ffynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Lanagan bod criced "nôl ar agenda" pobl Dolgellau a'r ardaloedd cyfagos

"Mae criced yn gêm sydd wedi rhoi cymaint i mi," meddai Mr Lanagan.

"Rydw i eisiau i eraill gael y cyfleoedd rydw i wedi'u cael.

"Y freuddwyd fyddai gweld un o'r ieuenctid rydw i'n eu hyfforddi'n cymryd fy lle i yn y tîm cyntaf ymhen blynyddoedd."

'Mr Criced'

Mae categori Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cydnabod unigolyn sy'n rhoi o'i amser i gefnogi, datblygu neu hyrwyddo chwaraeon.

Dywedodd Stuart Evans, wnaeth enwebu Mr Lanagan: "Rydyn ni wedi mynd o glwb oedd ddim ond yn goroesi i fod yn un sy'n ffynnu, diolch i Gareth.

"Weithiau rydw i'n amau ydy o'n cysgu! Mae wrth ei fodd gyda chriced a chlwb criced lleol Dolgellau.

"Fo ydi'n Mr Criced ni yn sicr."

Bydd mwy o enillwyr yn cael eu cyhoeddi wrth i'r wythnos yn mynd yn ei blaen. Yr enillwyr hyd yn hyn ydy:

  • Codi Allan, Bod yn Egnïol - Gwobr Cymru Actif 2018

  • Gareth Lanagan - Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2018

  • Aled Jones-Davies - Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn 2018