Cyngor Gwynedd yn ystyried gwario ar ofal dementia

  • Cyhoeddwyd
Gofal dementiaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried buddsoddi dros £800,000 y flwyddyn ar ofal dementia yn y sir.

Mewn cynllun ar y cyd rhwng y cyngor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, y bwriad yw sefydlu unedau dementia newydd mewn pedwar o gartrefi preswyl y sir.

Byddai'r unedau yn cael eu staffio gan weithwyr iechyd proffesiynol, ac mae tair uned eisoes yn barod i'w defnyddio.

Mae disgwyl i gabinet y cyngor drafod y mater ddydd Mawrth.

Gofal lleol

Byddai'r buddsoddiad yn costio £808,000 y flwyddyn, a dywedodd y cyngor mai'r bwriad yw sicrhau fod pobl hŷn yn cael gofal arbenigol mor agos â phosib i'w cymunedau.

"Drwy ddatblygu unedau arbenigol sydd yn cael eu staffio gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol, bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn gallu derbyn gofal a chefnogaeth y maent eu hangen mor agos â phosib i'w hanwyliaid," meddai'r Cynghorydd Gareth Roberts, yr aelod cabinet dros oedolion, iechyd a llesiant.

Byddai'r unedau yn cael eu lleoli yng nghartrefi preswyl:

  • Llys Cadfan, Tywyn;

  • Plas Hafan, Nefyn:

  • Plas Hedd, Bangor;

  • Mae disgwyl y bydd yr uned yng nghartref Bryn Blodau, Llan Ffestiniog yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Mehefin 2019.

Ychwanegodd Ffion Johnstone, cyfarwyddwr gorllewin Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Ein prif nod ydy darparu gofal yn agosach at gartref a bydd y buddsoddiad yma yn sicrhau y bydd y rheiny sydd fwyaf bregus yn ein cymunedau yn cael mynediad i'r gofal arbenigol y maen nhw ei angen."