Cynllun ynni Powys i losgi 150,000 tunnell o wastraff

  • Cyhoeddwyd
Buttington
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle dan sylw mewn hen chwarel i'r gogledd o'r Trallwng

Mae cwmni ynni adnewyddadwy yn ymgynghori ar gynllun i leoli llosgydd mewn hen chwarel yn ardal Y Trallwng.

Dywed Broad Energy y byddai'r llosgydd yn chwarel Buttington yn cynhyrchu trydan drwy waredu 150,000 tunnell o sbwriel nad oes modd ei ailgylchu.

Byddai'n golygu buddsoddiad o £114m.

Yn ôl y cwmni byddai'r cynllun ynni carbon isel, tair milltir i'r gogledd o'r Trallwng, yn cyflogi 35 o bobl ac yn darparu trydan ar gyfer 20,000 o gartrefi.

Bydd y cwmni yn cynnal ymgynghoriad am gyfnod o chwe wythnos.

Lleihau nwyon tŷ gwydr

Does dim cais wedi ei gyflwyno eto i Gyngor Powys nac i'r Arolygaeth Gynllunio ar gyfer y safle arfaethedig.

Yn ôl Broad Energy, cwmni Hitachi Zosen Inova fyddai'n adeiladu ac yn gyfrifol am gynnal y safle.

Dywedodd Alistair Hilditch-Brown, Prif Weithredwr Broad Energy, ei fod yn credu y byddai'r prosiect yn fodd i sicrhau mai Powys fyddai'r sir "werdd" gyntaf yng Nghymru.

"Mae'r cynlluniau wedi bod yn cael eu datblygu ers peth amser ac rydym yn falch o allu eu rhoi gerbron y cyhoedd," meddai.

"Ar hyn o bryd mae gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn mynd i safleoedd tirlenwi neu lefydd gwaeth na hynny.

"Fe fyddai'r cynllun yn gam mawr tuag at sicrhau fod Cymru yn lleihau nwyon tŷ gwydr a chynhyrchu ynni carbon isel."

Yn ôl Broad Energy byddai tua 300 o bobl yn cael eu cyflogi yn y gwaith o godi'r safle newydd.