'Pryder difrifol' am gyllid gofal cymdeithasol medd ACau

  • Cyhoeddwyd
Gofal preswylFfynhonnell y llun, Thinkstock

Dyw'r cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru ddim yn ddigon i ateb y galw, yn ôl Aelodau Cynulliad.

Mae'r pwyllgor iechyd wedi dweud bod ganddynt bryderon difrifol am gyn lleied o arian sydd ar gael i'r gwasanaethau.

Maen nhw'n rhybuddio y bydd gwasanaethau'n cael eu heffeithio eto gan doriadau i gyllidebau'r cynghorau lleol, poblogaeth sy'n tyfu'n hŷn a chynnydd mewn cyflyrau cronig.

Mae gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu gan lywodraeth leol, sy'n wynebu toriadau.

'Anallu' i reoli cyllid

Daw'r honiadau wrth i bwyllgorau'r Cynulliad gyflwyno'u safbwyntiau ar y gyllideb ddrafft.

Tra bod y gyllideb yn rhoi mwy o arian i'r GIG roedd hefyd toriadau difrifol i gynghorau - er i gyhoeddiad diweddarach ddweud na fyddai'r un cyngor yn wynebu cwtogiad mwy na 0.5%.

Cafodd £20m ychwanegol ei ddarparu yn y setliad ariannol i gynghorau i wasanaethau cymdeithasol, ynghyd â £30m arall i wasanaethau cymdeithasol tu hwnt i'r prif grant i gynghorau.

Er i'r ACau groesawu'r arian ychwanegol, roeddent yn rhybuddio: "Mae gennym bryderon difrifol am ariannu gofal cymdeithasol yn gyffredinol, gan gynnwys nad yw'r arian sydd ar gael ar hyn o bryd yn gallu ateb y galw, a bod y sefyllfa honno'n mynd i waethygu gyda thoriadau pellach i gyllidebau cynghorau lleol, poblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd mewn cyflyrau cronig.

"Credwn, fel mater brys, bod angen edrych ar ddull cyfannol o ariannu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol gan gynnwys cyllidebau ar y cyd."

Mynegodd y pwyllgor iechyd bryderon am "anallu cyson" rhai o fyrddau iechyd y GIG i "gadw disgyblaeth ariannol".

Fe wnaeth pedwar bwrdd iechyd - Betsi Cadwaladr, Hywel Dda, Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro - orwario yn ystod y tair blynedd ddaeth i ben yn 2017/18.

Gan alw am wybod y rhesymau y tu ôl i'r gorwario, dywedodd ACau'r pwyllgor: "Credwn ei fod o bwysigrwydd mawr gallu deall a oes yna broblemau rheolaeth ar lefel byrddau iechyd, neu a ydyw'n fater yn ymwneud â'r cyllid maent yn ei dderbyn."

Toriadau i CNC

Mynegodd y pwyllgor amgylcheddol bryderon bod cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cael ei dorri 3% - o £68.4m i £66.3m - a allai effeithio ar y gwasanaeth mae'n ei ddarparu.

Yn ôl CNC, byddai'r toriadau arfaethedig "yn bygwth y gwasanaethau a dyletswyddau newydd gallwn eu cynnig".

Dywedodd ysgrifennydd materion gwledig y cabinet, Lesley Griffiths, wrth y pwyllgor ei bod yn hyderus bod CNC yn "rheoli ei gyllid mewn ffordd sy'n bodloni ei gyfrifoldebau i gyd".

Ond dywedodd ACau nad oeddent wedi eu darbwyllo bod "y toriadau cyson i'r arian mae CNC yn derbyn heb gael effaith ar ei allu i ddarparu ei wasanaethau craidd".

Yn y cyfamser, dywedodd y pwyllgor cyllid y dylai Cymru fod "yn gwbl barod" i dderbyn pwerau treth incwm newydd - bydd rhan o gyllid Cymru yn cael ei ariannu gan y dreth erbyn Ebrill flwyddyn nesaf.

Galwodd y pwyllgor am sicrwydd bod rhagolygon y gyllideb mor gywir ag y gallent fod, a dysgu gwersi gan Yr Alban, sydd wedi goramcangyfrif ei chyllid yn y gorffennol.