Ystyried treth newydd i ariannu gofal i bobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Mark Drakeford byddai angen gwneud yn siŵr bod llywodraethau'r dyfodol ddim yn defnyddio'r gronfa i bwrpas arall

Mae treth newydd ar incwm, fyddai yn ariannu gofal i bobl hŷn, yn cael ei ystyried gan yr Ysgrifennydd Cyllid.

Mae Mark Drakeford wedi dweud wrth raglen Wales Live y BBC ei fod wedi dechrau trafodaethau gyda'r Trysorlys ynglŷn â system yswiriant gorfodol yng Nghymru.

Ond byddai nifer o "gymhlethdodau" angen eu datrys cyn i'r syniad ddod yn realiti, meddai.

Bydd yr economegydd Gerry Holtham yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru fis nesaf gan amlinellu sut y byddai'r system yn gweithio.

Disgrifiad o’r llun,

Yr awgrym gan Gerry Holtham ydy y gallai'r swm y byddai person yn talu amrywio yn ôl oedran

Yn y gorffennol, mae'r Athro Holtham wedi awgrymu y byddai cyfraniadau yn amrywio fesul oedran, gyda gweithwyr hŷn yn talu cyfran yn fwy o'u hincwm.

Dywedodd pe byddai cyfraniad o 1.5% yn cael ei roi, byddai person ar gyflog cyfartalog yn talu "rhywle rhwng £250 a £200 y flwyddyn".

Byddai'r arian yn cael ei glustnodi ar gyfer cronfa fyddai yn benodol ar gyfer gofal cymdeithasol i bobl oedrannus.

'Dyletswydd' cyllido

Yn ôl Mark Drakeford, mae'r ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio yn golygu bod yna "ddyletswydd" ar y llywodraeth i feddwl am ffyrdd i ddarparu gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Dangosodd gwaith ymchwil gan y felin drafod Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 byddai'n rhaid i'r nawdd i'r rhai dros 65 oed gan gynghorau Cymru gynyddu 18% dros y ddegawd nesaf dim ond i gadw'r un lefel o wariant fesul person.

Mae syniadau'r Athro Holtham, meddai Mr Drakeford, yn "dyddio nôl i egwyddorion sylfaenol yswiriant cenedlaethol".

Ffynhonnell y llun, Getty/Peopleimages
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn dweud fod gan Lywodraeth y DU ddiddordeb gweld sut byddai'r syniad yn gweithio

Ond mae'n cydnabod bod gwaith i wneud i ddarbwyllo pobl ei fod yn syniad da.

"Yn gyntaf dw i'n credu byddai pobl angen sicrwydd pendant fod yr arian sy'n cael ei dalu fewn yn aros yn y gronfa honno i'r pwrpas hynny, na fyddai llywodraethau yn y dyfodol yn gallu edrych ar y gronfa a dweud, 'O byddai hwn yn ddefnyddiol, fe nawn ni wario'r arian ar rywbeth arall'."

Ychwanegodd: "Yn ail dw i'n credu bod gwaith i wneud er mwyn gwyntyllu'r math o bethau y byddai'r gronfa yn gallu cael ei ddefnyddio ar ei gyfer.

Disgwyliadau gwahanol

"Dw i ddim yn credu y byddai yn ddigon i ddweud mai'r cyfan fydden ni yn gwneud byddai prynu mwy o'r math o wasanaethau sydd gennym ni heddiw."

"Dw i'n credu y bydd disgwyliadau pobl yn wahanol mewn blynyddoedd i ddod. Fe fyddan nhw eisiau gwasanaethau o fath gwahanol."

Dywedodd hefyd y byddai'n rhaid cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y byddai'r nawdd yn gweithio.

Er hynny, mae sgwrs gychwynnol gyda'r prif ysgrifennydd i'r Trysorlys ynglŷn â'r syniad, wedi rhoi'r argraff iddo fod gan Lywodraeth y DU ddiddordeb yng Nghymru yn gwneud "gwaith arbrofol" am fod cyllido gwasanaethau cymdeithasol yn bwnc anodd i'r holl lywodraethau.