Pryderon am effaith Wylfa Newydd ar yr iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr sir wedi codi pryderon am effaith pwerdy niwclear Wylfa Newydd ar y Gymraeg.
Os ydy Horizon yn ennill y trwyddedau angenrheidiol ac yn sicrhau'r arian angenrheidiol ar gyfer Wylfa Newydd, mae disgwyl i'r gweithwyr cyntaf gyrraedd y safle yn 2020.
Mae disgwyl i'r atomfa gwerth £12bn gyflogi hyd at 9,000 o staff adeiladu ar ei anterth.
Er mai ar Ynys Môn mae'r datblygiad wedi'i leoli, mae cynghorwyr Gwynedd yn poeni am yr effaith bosib ar y Gymraeg, trafnidiaeth, y farchnad dai, ac ysgolion.
Ddydd Mawrth, cafodd cais Gorchymyn Caniatâd Datblygiad (DCO) Horizon ei gymeradwyo'n unfrydol gan Gyngor Gwynedd.
Ond mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn bryderus bod ymrwymiad cwmni Horizon i'r Gymraeg yn annigonol.
Mae'r cwmni wedi cynnig ariannu athrawon i helpu gydag addysg Gymraeg ar draws y ddwy sir.
Ond mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn ofni y byddai'r fath fesurau'n "rhy hwyr" a bod angen cael mesurau'n barod cyn i'r gweithwyr symud i mewn.
Dywedodd Horizon eu bod nhw'n parhau i fod yn "ymroddedig" i'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
'Y difrod wedi'i wneud'
Mae'r adroddiad DCO yn dweud: "Hoffai Cyngor Gwynedd weld sicrwydd cryfach y byddai'r effaith gymdeithasol ac ieithyddol negyddol ar y tir mawr yn cael ei gyfyngu gan Horizon."
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: "Bydd yr effaith yn sylweddol yng Ngwynedd, efallai ddim mor helaeth ag Ynys Môn, ond yn sylweddol yr un fath.
"Fel y nodwyd yn yr adroddiad, rydym yn cydnabod y manteision economaidd os caiff Wylfa Newydd ei hadeiladu ond nid ydym yn hyderus bod rhai agweddau wedi'u hystyried yn ddigon gofalus a bod angen mwy o liniaru."
Ychwanegodd bod Horizon wedi sôn am fonitro'r sefyllfa hanner ffordd drwy'r datblygiad, "ond erbyn hynny gall y difrod fod wedi'i wneud yn barod".
Mewn ymateb, dywedodd cwmni Horizon eu bod wedi cydweithio gyda Chyngor Gwynedd i "warchod, hyrwyddo a hybu'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig".