Canllaw newydd i wneud gwisg ysgol yn 'fwy fforddiadwy'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Glan Morfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r canllawiau yn croesawu cynlluniau ailgylchu gwisgoedd fel un Ysgol Glan Morfa

Bydd mwy o bwysau ar ysgolion i sicrhau bod gwisgoedd ysgol fforddiadwy ar gael i blant yn sgil canllawiau "cryfach" newydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n gofyn am farn disgyblion a rhieni am y canllawiau, fyddai hefyd yn dweud na ddylai ysgolion ofyn am eitemau dillad penodol yn ôl rhyw.

Cyrff llywodraethu ysgolion unigol sy'n penderfynu ar bolisïau dillad plant ar hyn o bryd, ond bydd canllawiau newydd y llywodraeth yn statudol felly bydd yn rhaid i ysgolion ddangos eu bod wedi eu hystyried.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, nad yw'n "briodol bellach" i ysgolion rhestru dillad gwahanol i fechgyn a merched.

Ailgylchu gwisgoedd

Ychwanegodd mai'r nod oedd sicrhau bod yr argymhellion newydd "yn gyfoes ac mor gryf â phosib".

Bwriad y llywodraeth yw rhoi mwy o bwysau ar ysgolion i ystyried gwisgoedd fforddiadwy, a bod rhieni yn gallu cael gafael arnyn nhw'n hawdd.

Disgrifiad,

Beth yw barn plant Ysgol Glan Morfa ar wisg ysgol?

Yn Ysgol Gynradd Glan Morfa yn ardal Sblot yng Nghaerdydd mae cynllun ailgylchu gwisgoedd ysgol ar waith, ac yn ôl Delyth Mullane, sy'n gyfrifol am y cynllun, mae'n effeithiol iawn.

Dywedodd bod pobl yn defnyddio'r gwasanaeth am wahanol resymau - mae rhai eisiau siwmper i gymryd lle un sydd wedi'i cholli, ac eraill yn awyddus i ail-ddefnyddio yn hytrach na phrynu un newydd.

"Mae cyn-ddisgyblion neu blant sydd wedi tyfu allan o'u dillad yn dod â nhw aton ni," meddai Ms Mullane.

Mae siwmperi a chardiganau porffor ar gael i'r rhieni i brynu am bunt yn yr ysgol.

'Ardal ddifreintiedig'

Ychwanegodd Ms Mullane bod sicrhau fod opsiwn fforddiadwy gan rieni mewn ardal ddifreintiedig o Gaerdydd yn rheswm pwysig dros sefydlu'r cynllun.

"Chi'n dod i adnabod y rhieni, a dwi'n dueddol o fynd atyn nhw a dweud bod stoc newydd mewn gen i," meddai.

"Ni mewn ardal ddifreintiedig, a ni wedi gwneud hyn ers blynyddoedd - ers dechrau'r ysgol."

Disgrifiad,

Dywedodd pennaeth Ysgol Glan Morfa, Meilir Tomos bod gwisg ysgol yn atal "sioe ffasiwn"

Mae pennaeth Ysgol Glan Morfa, Meilir Tomos, wedi ymdrechu i sicrhau nad oes rhaid i rieni wario gormod ar ddillad i'w plant.

"Mae 'na opsiwn i rieni brynu gwisg ysgol o amryw o lefydd oni bai am y siwmperi sydd â'r logo arnyn nhw, ond mae dau draean o'r wisg ysgol yn fforddiadwy dros ben," meddai.

Yn ôl y canllawiau newydd, mae pwyslais ar lywodraethwyr i ystyried eitemau a lliwiau sylfaenol ar gyfer gwisgoedd er mwyn sicrhau eu bod ar gael gan ystod o gyflenwyr, yn ogystal ag osgoi gofyn i deuluoedd brynu dillad drud fel blaseri a chapiau.

Mae awgrym hefyd y dylai bod modd gwnïo neu smwddio logos ar wisgoedd, yn hytrach na phrynu dillad gyda logos pwrpasol arnyn nhw'n barod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams nad yw'n briodol bellach i ysgolion gael dillad gwahanol i fechgyn a merched

Dywedodd Ms Williams bod angen caniatáu i blant unigol wisgo dillad i'r ysgol sy'n "hyrwyddo eu lles".

"Mae 'da ni amgylchiadau ble mae ysgolion yn rhestru gwisgoedd ysgol - dyma mae bechgyn yn ei wisgo, dyma'r hyn mae merched yn ei wisgo - ond nid yw hyn yn briodol bellach," meddai.

Dileu grant £700,000

Mae'r argymhellion hefyd yn dweud y dylai ysgolion fod yn hyblyg yn ystod tywydd eithafol, gan adael i ddisgyblion wisgo eu dillad addysg gorfforol mewn tywydd poeth iawn er enghraifft.

Daw hynny yn dilyn pryderon bod rhai ysgolion wedi bod yn rhy llym wrth orfodi polisi unffurf yn ystod tywydd poeth yr haf.

Cafodd Llywodraeth Cymru eu beirniadu'n gynharach eleni am ddileu'r grant gwisg ysgol gwerth £700,000.

Mae cynllun newydd wedi'i sefydlu fel rhan o'r Grant Datblygu Disgyblion sy'n caniatáu i blant mewn gofal a disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim hawlio £125 tuag at ddillad ac offer chwaraeon.

Mae ar gael ar ddechrau'r ysgol gynradd ac uwchradd ac ar gyfer plant mewn ysgolion arbennig, canolfannau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion.