Cyhuddo Canolfan Bwyd Cymru Bodnant o 'ddiffyg parch'
- Cyhoeddwyd
Fe ddangosodd Canolfan Bwyd Cymru Bodnant "ddiffyg parch" i'w cyflenwyr wrth iddyn nhw fynd i'r wal, yn ôl teulu sy'n magu moch.
Mae gweinyddwyr y busnes - sydd wedi'i leoli yn Sir Conwy - wedi dod o hyd i brynwr newydd posib.
Ond mae'r bridwyr moch o ardal Bae Colwyn yn dweud eu bod yn debygol o golli bron i £17,000.
Doedd y gweinyddwyr, Smith Cooper, ddim am wneud sylw ar y mater.
'Dal i brynu'
Bridiau moch prin a thraddodiadol mae Gwyndaf Thomas a'i deulu yn eu magu ar eu fferm yn Llanelian, ger Bae Colwyn.
Maen nhw'n masnachu dan yr enw Piggin Good Pork, ac fe arwyddon nhw gytundeb i gyflenwi'r ganolfan fwyd ym Modnant yn unig.
Roedd hynny'n cynnig "marchnad sefydlog" i'r busnes, yn ôl Mr Thomas.
Ond fe gronnodd yr arian oedd yn ddyledus i'r fferm i tua £17,000, wrth i'r teulu hefyd geisio dygymod â marwolaeth tad-yng-nghyfraith Mr Thomas.
Mae'n teimlo bod y cwmni oedd yn gyfrifol am y ganolfan, Furnace Farm Ltd, wedi trin eu cyflenwyr â "diffyg parch".
"Mae'n rhaid eu bod nhw'n gwybod bod y lle'n mynd i lawr ers rhai misoedd," meddai.
"Ond roedden nhw'n dal i brynu... ac nid ni ydy'r unig rai yn y sefyllfa yna.
"Doedd 'na ddim llawer o barch i'r bobl oedd yn gwerthu'r stwff iddyn nhw."
Annhebygol o adennill arian
Wythnos diwethaf, cyhoeddodd y gweinyddwyr, Smith Cooper, bod y gŵr busnes, Richard Reynolds, yn agos at brynu'r ganolfan.
Er hynny, mae teulu Mr Thomas wedi cael gwybod gan eu cyfrifydd ei bod hi'n annhebygol y cawn nhw'r mwyafrif o'r arian maen nhw'n ei hawlio sy'n ddyledus iddyn nhw yn ôl.
Wrth ymateb i gyhoeddi enw'r prynwr posib, dywedodd perchennog presennol Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, Michael McLaren ei bod hi'n ddrwg ganddo "nad oedd cyfarwyddwyr Furnace Farm Ltd wedi medru gwneud i'r cwmni fasnachu gan wneud elw, er gwaethaf buddsoddiad enfawr o amser ac arian dros nifer o flynyddoedd".
Dywedodd Mr Reynolds ei fod yn "falch o fod yn agos i sicrhau perchnogaeth y ganolfan" a'i fod yn "credu bydd y lleoliad gwych, y cynnyrch arobryn ac enw da'r busnes yn galluogi Canolfan Fwyd Cymru Bodnant i barhau i ffynnu a thyfu am flynyddoedd i ddod".
Gofynnodd BBC Cymru i Smith Cooper am ymateb i sylwadau Mr Thomas, ond fe wrthodon nhw wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018