Achos Llanbedrog: 'Dim syniad sut i wn gael ei danio'
- Cyhoeddwyd
Mae ciper 23 oed o ardal Pwllheli wedi mynnu nad oedd yn gwybod sut i wn dwy faril gael ei danio mewn cerbyd 4x4, gan arwain at farwolaeth ei ffrind 18 oed.
Yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd Ben Fitzsimons o Nanhoron ei fod wedi yfed wyth peint o lager cyn y digwyddiad ym maes parcio tafarn y Llong yn Llanbedrog ar 5 Chwefror y llynedd.
Roedd Peter Colwell yn eistedd yn sedd gefn y Land Rover Discovery pan gafodd ei saethu.
Dywedodd Patrick Harrington QC ar ran yr erlyniad mai Ben Fitzsimons, sy'n gwadu dynladdiad drwy esgeulustod, oedd yr unig berson yn sedd flaen y cerbyd 4x4 pan gafodd y gwn ei danio.
Yn ôl yr erlyniad roedd y gwn wedi cael ei gadw yn y sedd flaen, yn pwyntio tuag at y sedd gefn.
Mae'r rheithgor eisoes wedi clywed fod y pum dyn wedi yfed wyth neu naw peint o gwrw neu seidr cyn y digwyddiad.
'Agwedd llac'
"A wnaethoch chi roi pwysau ar y triger," gofynnodd Mr Harrington
"Dim fy mod i'n ymwybodol o hynny. Gallai ddim dweud ia neu na," oedd ateb y diffynnydd.
Dywed yr erlyniad fod pwysau wedi ei roi ar y triger, a bod y botwm diogelwch wedi ei ryddhau.
"Do, rhywsut," meddai Mr Fitzsimons.
Derbyniodd y diffynnydd fod "nifer o reolau diogelwch" wedi eu torri ar y noson.
Cytunodd gyda gosodiad yr erlyniad fod gan Ben Wilson, 29 oed a pherchennog y gwn, agwedd "llac" tuag at ddiogelwch gynau.
Nid yw Mr Wilson wedi rhoi tystiolaeth hyd yma.
Doedd Mr Wilson ddim yn y cerbyd pan gafodd Mr Colwell ei saethu, ond mae'r erlyniad yn mynnu nad oedd y gwn yn cael ei gario mewn modd diogel.
Gwadu'r cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod mae Mr Wilson.
Mae dau arall - Michael Fitzsimons, 25, a Harry Butler, 23, ynghyd â Ben Fitzsimons - yn gwadu bod â gwn wedi'i lwytho yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.
Mae Mr Wilson, yn wreiddiol o Gaergrawnt, eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Mae'r achos yn parhau.