Cwis y Corpws Cenedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes yn brosiect ymchwil Cymraeg sy'n cael ei redeg gan academyddion ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Caerhirfryn a Bangor.
Y nod yw casglu 10 miliwn o eiriau Cymraeg gan wahanol bobl, am wahanol bynciau, mewn lleoedd gwahanol, er mwyn gwneud 'corpws' [= corff] o'r iaith gyfoes.
Mae'r cwis yma wedi'i seilio ar sampl fach, ar hap, o'r data mae'r Corpws wedi'i ddarganfod hyd yn hyn.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwaith yma mae dal angen mwy o ddata llafar ar y Corpws, yn enwedig sgyrsiau bob dydd. Er mwyn helpu i sicrhau bod digon o ddata o'ch ardal chi, gallwch gyfrannu'n uniongyrchol trwy apiau'r Corpws (ar gael ar yr App Store neu Google Play) neu gallwch gyfrannu trwy'r ap ar y wefan, dolen allanol.
Rhowch eich Cymraeg i'r Corpws!
Cwisys eraill ar Cymru Fyw: