Cefnogaeth dioddefwyr trais domestig yn 'lotri côd post'

  • Cyhoeddwyd
A woman cowering with the shadow of a man's fist on the wall behind herFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dioddefwyr trais domestig a cham-drin rhywiol yn derbyn llai o gefnogaeth os yn byw mewn rhannau gwledig o Gymru, yn ôl un o ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Nazir Afzal, sy'n cynghori ar faterion yn ymwneud â thrais domestig a thrais yn erbyn menywod, fod yno "loteri côd post" o ran gwasanaethau cefnogi dioddefwyr.

Ychwanegodd fod y Cymry yn "gymdogion da" sydd yn fwy ymwybodol o broblemau yn eu cymunedau.

Mae Mr Azfal yn dweud ei fod nawr yn ceisio safoni gwasanaethau ledled Cymru.

Siaradodd Mr Afzal, cyn Brif Erlynydd y Goron ar gyfer gogledd orllewin Lloegr, gyda'r BBC cyn cymryd rhan yng nghynhadledd Ethnic Minorities and Youth Support Team Cymru.

"Os ydych chi'n byw yng Nghymru wledig, dydych chi ddim am dderbyn yr un lefel o wasanaeth fyddai ar gael mewn ardaloedd trefol," meddai.

Ychwanegodd fod y Llywodraeth yn ceisio taclo'r elfennau o "loteri côd post".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Afzal nad oedd Cymru yn wahanol i unrhyw ran arall o'r DU

Dywedodd Mr Afzal ei fod yn edrych ar arferion da ledled Cymru er mwyn hybu asiantaethau eraill i'w defnyddio fel rhan o'u gwasanaeth.

"Dim creu rhywbeth newydd sy'n bwysig, ond sicrhau ein bod ni wedi addasu ym mhob rhan o'r wlad."

Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos fod mwy na thraean o droseddau treisgar gafodd eu cofnodi yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf yn ymwneud â thrais domestig.

Roedd 15% o bob trosedd gafodd ei gofnodi yn yr un cyfnod hefyd yn ymwneud â thrais domestig, cynnydd o 3% i gymharu â 2016.

Roedd ffigyrau Cymru yn uwch nac unrhyw ran arall o Brydain yn y ddwy achos.

'Ofnadwy'

Yn ôl Mr Afzal nid yw Cymru yn wahanol i unrhyw ran arall o'r DU.

Pob wythnos yn y DU mae dwy ddynes yn cael eu lladd gan eu partneriaid, ac mae deg dynes yn lladd eu hunain o ganlyniad i drais domestig, meddai.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid edrych ar sut mae addysg yn delio â'r peth, sut mae iechyd yn delio â'r peth a sut mae adrannau eraill yn delio gyda'r peth.

"Mae hi'n ofnadwy bod dioddefwyr yn wynebu'r troseddau hyn yn ddyddiol."

'Gwlad o gymdogion da'

Ar ôl cael ei benodi, dywedodd Mr Afzal ei fod yn anelu i sicrhau fod Cymru "y lle fwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop".

Wrth drafod sut oedd modd gwireddu hyn, dywedodd y dylai Cymru fod yn "wlad o gymdogion da".

"Credaf fod y Cymry yn benodol yn gymdogion da iawn - rydych chi'n 'nabod eich gilydd, yn aml yn gwybod pwy sy'n byw yn gyfagos a pwy sy'n dioddef."

"Tro ar ôl tro, trais domestig sydd yn arwain at brofiadau niweidiol mewn plentyndod, at y dioddefaint a'r boen yn ein cymdeithas, a dwi'n credu os fedrwn ni daclo'r mater yma yna byddwn yn gallu taclo cymaint o broblemau cymdeithas."