Osgoi siarad yr iaith rhag 'corddi'r swyddogion'
- Cyhoeddwyd
Mae carcharorion yn dewis peidio defnyddio'r Gymraeg neu ofyn am wasanaeth Cymraeg yn y carchar er mwyn osgoi "gwneud bywyd yn anodd".
Dyna un o gasgliadau adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.
Dywedodd un carcharor nad oedd yn defnyddio'r iaith rhag ofn iddo "gorddi'r swyddogion a'r awdurdodau".
Dywedodd un arall ei fod wedi cael ei rwystro rhag siarad Cymraeg gyda'i dad yn ystod ymweliad.
'Corddi swyddogion'
Cyfres o gyfweliadau gyda charcharorion yw sail yr adroddiad 'Cymraeg yn y Carchar'. Astudiwyd dogfennau a chasglwyd tystiolaeth gan sefydliadau sy'n darparu gwasanaeth carchardai.
Dywedodd un o'r carcharorion: "Mae defnyddio'r Gymraeg yn gwneud chi'n wahanol. Dwi'n meddwl taw dyma'r rheswm pam nad yw pawb sy'n gallu siarad Cymraeg yn dewis defnyddio'r iaith."
Ychwanegodd carcharor arall: "Dwi ddim yn gweld fy mywyd yn hawdd os oeddwn yn mynnu defnyddio'r Gymraeg; dwi ddim am gorddi'r swyddogion a'r awdurdodau."
Mae achlysuron wedi bod lle mae rhai staff carchardai wedi ymyrryd â rhyddid carcharorion i siarad Cymraeg efo'i gilydd a gyda'u teuluoedd.
Soniodd un carcharor am achlysur pan oedd ei dad yn ymweld, ac aelod o staff yn gofyn iddynt beidio â siarad Cymraeg.
"Ro'n i yn teimlo'n grac oherwydd mae pobl eraill yn cael siarad eu hiaith nhw felly pam ddim y Gymraeg? Wnes i ddim cwyno; pwy fyddai'n gwrando? Does dim pwynt gwneud cwyn."
Mae'r adroddiad yn dweud bod yna fwy o hawliau cyfreithiol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn carchardai a leolir yng Nghymru na Lloegr, a bod mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yng ngharchardai Cymru.
Nodir hefyd bod Carchar y Berwyn wedi arwain at wella'r ddarpariaeth, ond bod yna dal nifer fawr o achosion lle caiff pobl o Gymru eu carcharu mewn carchardai yn Lloegr. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos menywod, meddir, lle nad oes yna yr un carchar ar eu cyfer yng Nghymru.
Dywedir fod y gwasanaeth carchardai wedi cymryd camau cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys creu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol yng Ngharchar y Berwyn, a chryfhau trefniadau monitro.
Mae disgwyl i'r sefyllfa wella ymhellach wrth i fwy o garcharorion gogledd Cymru gael eu lleoli yng Ngharchar y Berwyn.
'Nid mater o foethusrwydd yw iaith'
Yn ei hadroddiad, mae Comisiynydd y Gymraeg yn gwneud cyfres o argymhellion er mwyn galluogi carcharorion i siarad eu hiaith eu hunain a mynegi eu hunain yn well ac i sicrhau bod sefydliadau'n parchu hunaniaeth carcharorion Cymraeg eu hiaith.
"Nid mater o foethusrwydd yw iaith, ond mater o gyfiawnder," meddai Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.
"Mae'n ymwneud â hawl sylfaenol carcharor i gyfathrebu drwy gyfrwng ei iaith ei hun, neu'r iaith y gall fynegi ei hun rwyddaf ynddi.
"Mae clywed am enghreifftiau staff carchardai'n ymyrryd â rhyddid carcharorion i siarad Cymraeg â'i gilydd ac â'u teuluoedd yn fy nhristáu; ac mae'n bwysig ei gwneud hi'n glir nad yw sefyllfaoedd o'r fath yn dderbyniol.
"Gydol y broses o baratoi'r adroddiad hwn, mae fy swyddogion wedi bod yn trafod y canfyddiadau a'r argymhellion gyda swyddogion yr HMPPS, sef y sefydliad sy'n goruchwylio'r gwasanaeth carchardai. Rwy'n hyderus y byddant yn defnyddio'r adroddiad er mwyn gweithredu'n gadarnhaol i wella profiadau siaradwyr Cymraeg."
Anghenion iaith yn 'hanfodol'
Dywedodd Amy Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol HMPPS yng Nghymru: "Dymunaf ddiolch i'r Comisiynydd am gynhyrchu adroddiad teg a chynhwysfawr.
"Rydym yn derbyn y canlyniadau ac eisoes wedi dechrau rhoi camau gweithredu ar waith er mwyn gwella profiadau carcharorion sy'n siarad Cymraeg.
"Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae ateb anghenion iaith carcharorion yn allweddol er mwyn cefnogi adsefydlu a lleihau aildroseddu. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â'r Comisiynydd er mwyn gwella'n prosesau i gyflawni hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2015