PRO14: Gweilch 43-0 Zebre

  • Cyhoeddwyd
Luke MorganFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Luke Morgan ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn Yr Alban ar ddechrau'r mis

Fe sgoriodd asgellwr Cymru, Luke Morgan, dri chais wrth i'r Gweilch roi crasfa i Zebre o 43-0 yn Stadiwm Liberty nos Wener.

Scott Otten, Olly Cracknell a chais gosb oedd yn gyfrifol am weddill y ceisiau wrth i'r tîm cartref hawlio pwynt bonws a buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr ymwelwyr o'r Eidal.

Fe giciodd Sam Davies saith pwynt gyda James Hook yn ychwanegu dau drosiad.

Hon oedd gêm rhif 233 i gapten Cymru, Alun Wyn Jones dros y Gweilch - record newydd i'r rhanbarth.

Mwy o chwaraeon:

Gweilch:

Dan Evans; George North, Scott Williams, Owen Watkin, Luke Morgan; Sam Davies, Aled Davies; Nicky Smith, Scott Baldwin, Tom Botha, Adam Beard, Alun Wyn Jones, Olly Cracknell, Justin Tipuric (c), Sam Cross.

Eilyddion: Scott Otten, Gareth Thomas, Alex Jeffries, Lloyd Ashley, James King, Tom Habberfield, James Hook, Cory Allen.

Zebre:

Edoardo Padovani; Paula Balekana, Giulio Bisegni, Tommaso Boni, Jamie Elliott; Francois Brummer, Guglielmo Palazzani; Cruze Ah-Nau, Massimo Ceciliani, Eduardo Bello, David Sisi, George Biagi (capt), Maxime Mbanda, Johan Meyer, Giovanni Licata.

Eilyddion: Luhandre Luus, Daniele Rimpelli, Giosuè Zilocchi, Apisai Tauyavuca, Samuele Ortis, Joshua Renton, Maicol Azzolini, Jacopo Bianchi.