Grŵp asgell dde yn recriwtio aelodau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Network
Disgrifiad o’r llun,

Logo grŵp asgell dde System Resistance Network

Mae tactegau recriwtio grŵp asgell dde eithafol wedi'u datgelu wedi gwaith ymchwil gan ohebydd cudd.

Mae'r grŵp System Resistance Network (SRN) yn arddel polisi dim goddefgarwch tuag at bobl sydd ddim yn wyn ac maent yn honni fod bod yn hoyw yn "afiechyd".

Deallai rhaglen Wales Investigates fod y grŵp yn targedu cymunedau yng Nghymru er mwyn denu aelodau newydd.

Mae nifer yn galw am wneud ymaelodi â'r SRN yn anghyfreithlon.

Credir fod y grŵp wedi ei ysbrydoli gan y grŵp asgell dde National Action, a'i fod wedi annog cefnogwyr i gynnau tannau yn fwriadol ac achosi fandaliaeth yn ninasoedd Cymru.

'Anogaeth i ddarllen Mein Kampf'

Mae gohebydd Wales Investigates wedi cael gwybodaeth o lygad y ffynnon ar sut mae'r SRN yn gweithredu.

Bu'n cysylltu â'r grŵp am fisoedd ac yn gweithredu ar eu rhan drwy rannu posteri a gofynnwyd iddo hefyd i ddarllen Mein Kampf gan Hitler.

"Maent yn sôn," meddai'r gohebydd, "am chwalu'r sefydliad ac am dorri'r gyfraith er mwyn cael eu henw yn y penawdau - dyw e ddim ots ganddynt os oes rywun yn brifo."

Mae un o sefydlwyr National Action, Alex Davies o Abertawe, wedi dangos ei gefnogaeth i'r grŵp ar orsaf radio Natsiaidd, Radio Aryan.

'Dathlu marwolaeth AS'

Roedd Alex Davies yn fyfyriwr pan gafodd National Action ei greu yn 2013.

Roedd National Action yn cael ei ystyried fel grŵp asgell dde mwyaf peryglus Prydain ac yn Rhagfyr 2016 cafodd ei wahardd wedi i'w aelodau ddathlu marwolaeth yr aelod seneddol Jo Cox.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd National Action ei sefydlu gan Ben Raymond (chwith) ac Alex Davies yn 2013

Ychydig dros flwyddyn yn ôl cafodd Mr Davies a Mr Raymond eu harestio ar amheuaeth o barhau i fod yn aelodau o National Action.

Mae'r ddau yn gwadu hynny a dyw'r ddau ddim wedi cael eu cyhuddo. Mae'r heddlu yn dweud bod eu hymchwiliadau yn parhau.

Mae'r rhaglen Wales Investigates wedi bod yn gwrando ar sylwadau Mr Davies lle mae e wedi bod yn dweud ei fod wedi'i ysbrydoli gan bosteri hiliol a graffiti ar waliau yng Nghaerdydd.

Mae Mr Raymond wedi bod yn gofyn ar y radio am ddeunydd darllen i gefnogwyr asgell dde eithafol sydd wedi cael eu carcharu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alex Davies ei orfodi i adael Prifysgol Warwick am ei weithgareddau asgell dde eithafol

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r dyn sy'n rhedeg Radio Aryan - mae'n cael ei adnabod fel Sven Longshanks.

Nid oedd am wneud cyfweliad ond mewn e-bost mae e'n gwadu unrhyw ddrwgweithredu ac yn dweud bod yr orsaf ar gyfer gwrandawiad preifat.

Dywedodd hefyd nad yw'n gyfrifol am yr hyn y mae Ben Raymond ac Alex Davies yn ei ddweud.

Mae deg o bobl wedi'u cael yn euog eleni o barhau i fod yn aelodau o National Action.

'Ardaloedd i bobl wyn ynghyd'

Mae'r rhaglen wedi darganfod fod un aelod o National Action wedi penderfynu fod Cymru yn le da i ledaenu neges asgell dde a sefydlu ardaloedd i bobl gwyn yn unig.

Mae Mikko Vehvilainen yn byw yn Llansilin ym Mhowys a doedd gan ei gymdogion ddim syniad o'i ddaliadau Natsiaidd nes i'r heddlu gynnal cyrch ym mis Medi 2017.

Darganfu heddlu terfysgaeth ei fod yn parhau i fod yn aelod gweithredol o National Action a bod ganddo gysylltiadau â'r grŵp yng nghanolbarth Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Doedd gan bobl Llansilin ddim syniad am ddaliadau gwleidyddol Mikko Vehvilainen

Yn ystod y cyrch fe ddarganfu'r heddlu lawer iawn o ddeunyddiau Natsïaidd yng nghartref Vehvilainen ac yn ei lety ym Mhontsenni.

Mewn un neges datgelodd ei atgasedd at hiliau eraill gan ddweud na ddylai pobl ddu gael byw.

Wrth sôn am ei brofiad fel milwr yn Afghanistan dywedodd: "Roeddwn i'n gallu saethu plant [du] heb deimlo dim. Wnes i ddim saethu Mwslimiaid yn agos ond dwi'n gobeithio bod rhai o'm hergydion wedi'u lladd."

Cafodd Vehvilainen ei garcharu am wyth mlynedd am fod yn aelod o'r grŵp National Action wedi i'r erlyniad brofi ei fod wedi bod yn ceisio denu milwyr eraill i fod yn aelodau o'r grŵp.

Clywodd yr achos ei fod wedi prynu tŷ yn Llansilin fel rhan o gynllun i sefydlu ardal pobl wyn yn unig yng nghanolbarth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin wrth BBC Cymru nad oes lle i filwyr â daliadau asgell dde eithafol yn eu plith.

'Angen i gwmnïau ar y we wneud mwy'

Dywedodd Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth bod angen gwahardd grŵp SRN - yn yr un modd ag y mae National Action wedi'i wahardd.

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld yr heddlu yn ymchwilio i Radio Aryan ac i sylwadau Alex Davies a Ben Raymond.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna anogaeth i'r gohebydd cudd ddarllen Mein Kampf Hitler

Mae Wales Investigates wedi ceisio cysylltu â Ben Raymond ac Alex Davies yn gyson er mwyn cael cyfweliad ac maent wedi gwadu unrhyw ddrwgweithredu gan ddweud fod ganddyn nhw hawl i fynegi eu hunain.

"Mae'r rhyddid hwnnw i rannu sylwadau yn niweidiol i hawliau pobl eraill," meddai Mr Doughty.

"Rhaid hefyd cosbi cwmnïau sy'n fodlon rhannu sylwadau eithafol - a hynny er eu bod wedi cael eu cyfeirio at yr awdurdodau."

Dywedodd y Prif Gwnstabl Jon Drake o Uned Gwrthderfysgaeth Cymru bod yr heddlu yn gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru er mwyn canfod ac atal y math yma o weithgareddau eithafol - boed ar-lein neu yn rhywle arall.

"Os oes yna drosedd wedi'i chyflawni, fe wnawn ni ymchwilio a dwyn pobl o flaen eu gwell."

Bydd modd gweld Wales Investigates Exposed: The hidden world of Neo Nazi recruiters, nos Lun am 20:30 ar BBC 1 Cymru.