Brad Mooar yw prif hyfforddwr y Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Brad MooarFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhanbarth rygbi'r Scarlets wedi cyhoeddi pwy fydd eu prif hyfforddwr newydd pan fydd Wayne Pivac yn gadael i fod yn hyfforddwr Cymru ar ôl Cwpan y Byd 2019.

Ar hyn o bryd mae Brad Mooar yn hyfforddwr cynorthwyol gyda chlwb Crusaders yn Seland Newydd - y clwb sydd wedi ennill pencampwriaeth Super Rugby eleni.

Cyn hynny bu'n brif hyfforddwr clwb Southland Stags a chefnogwr olwyr Eastern Province Kings yn Ne Affrica.

Dywedodd Mooar: "Roedd y cyfle i fod yn brif hyfforddwr y Scarlets yn gyfle rhy dda i'w wrthod, ac mae'n her gyffrous i mi ac yn gyfle gwych i fy nheulu i fyw ym mhen draw'r byd.

"Mae'r Scarlets yn enwog drwy'r byd... mae'n glwb sy'n ennill ac mae ganddo hanes balch eithriadol, cefnogwyr angerddol ac uchelgais."

Bu Wayne Pivac yn y swydd ers 2014 gan ennill y Pro12 yn 2017.

Dywedodd rheolwr cyffredinol y Scarlets, Jon Daniels: "Mae athroniaeth rygbi Brad, ei steil o arwain a'i bersonoliaeth yn union beth yr oeddem ni'n chwilio amdano mewn prif hyfforddwr.

"Drwy'r broses yma, fe wnaeth ymwybyddiaeth Brad o le'r Scarlets yn y gymuned, ei angerdd am ddatblygu chwaraewyr a'i ymchwil i ddiwylliant a threftadaeth y clwb wedi creu argraff fawr arnom."