Lowri Gwyn: Beth sy' 'na i de?
- Cyhoeddwyd
Mae Lowri Gwyn o Gaernarfon yn fam i bedwar o blant ac yn rhedeg ei chwmni cyfieithu ei hun. Mae ganddi ddiddordeb mewn bwyd, coginio a thyfu llysiau ac yn berchen ar ddwy gath a ieir (pan na fydd y llwynog lleol yn cael y gorau arni).
Ond a oes ganddi amser i wneud campweithiau o brydau bob tro efo bywyd teuluol mor brysur?

Lowri Gwyn
Beth sy' i de heno?
Stiw cig eidion a madarch umami o lyfr rysetiau Cegin, Nici Beech, efo gnocchi parod.

Y cynhwysion - Stiw cig eidion a madarch umami
Pwy sy' rownd y bwrdd?
Fi, y gŵr Sion, a'r plant, Math, Olwen, Myfi a Llew, i gyd yn eu tro, ond ddim 'run pryd. Noson brysur!
Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu be sy' i de?
Dyddiaduron y plant! Nos Fawrth - yw'r gwaethaf... mae dwy wers biano, gwers glarinét, gwers ffliwt, hyfforddiant rygbi ac Aelwyd yr Urdd oll i'w ffitio mewn rownd bwydo! Y sialens felly yw canfod rhywbeth y gall pawb ei gael pan fyddan nhw'n agos i'r gegin. Dyna lle mae'r crochan trydan yn achubiaeth ac fe fydd rhywbeth yn y crochan bob nos Fawrth.

Campwaith Lowri
Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?
Paella. Fe brynais glamp o badell yn Sbaen a'i stwffio mewn i'r cês i ddod adref. Paella bwyd môr yw'r ffefryn yma.
Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?
Cawl. Mae gen i rysait hawdd cawl pys melyn a choconyt. Ffrio nionyn, garlleg ac unrhyw lysiau amheus o waelod y ffrij, ychwanegu paced mawr o bys melyn wedi rhewi, stoc a thun o lefrith coconyt. Mae 'na wastad baced o bys melyn yn y rhewgell rhag ofn...

Y plant yn mwynhau'r bwyd
Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?
Dw i wastad wedi mwynhau coginio ac mae'r plant hefyd yn mwynhau erbyn hyn ond oherwydd prysurdeb, mae rysetiau mwy mentrus, bara cartref, cacennau ac ati'n gorfod aros tan y penwythnos bellach.
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Stêc, chips a madarch. Dyna fyddai'n ddewis pan awn ni allan am fwyd bob tro!

Y bechgyn yn barod am y bwyd
Beth wyt ti'n ei fwyta er fod yn pigo'r cydwybod?
Fel cyfieithydd ar y pryd llawrydd byddaf mewn cyfarfodydd bron yn ddyddiol lle bydd buffet yn cyrraedd amser cinio. Gormod o sosej rôls, brechdanau a chacennau felly siŵr o fod!
Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?
Pan yn Hong Kong fe ymddangosodd traed ieir ar ein platiau yn ystod un pryd! Nhw gafodd y bai pan ddechreuodd pob bwyd droi arna'i wedyn. Roedd hynny cyn i mi ganfod fy mod yn feichiog gyda Math ar y pryd!
Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?
Mae pwdin reis yn fwyd chwerw-felys i mi. All neb guro'r un yr oedd Nain yn arfer ei wneud.

Gŵr Lowri, Sion, yn mwynhau'r swper
Beth yw dy hoff gyngor coginio?
Cynllunio a pharatoi cymaint ag y gallwch ymlaen llaw. Fe fydda i'n trio paratoi tua tri phryd ar fore Sul i'n cadw i fynd yn ystod yr wythnos gan fod bywyd mor brysur.
Beth oedd dy hoff bryd o fwyd erioed?
Pryd bwyd yn Guernica mewn ystafell gefn bar di-nod. Dim syniad beth oedd ar y fwydlen a dallt dim ar neb gan fod popeth mewn Basgeg, felly cymryd beth oedd yn dod at y bwrdd yn ddiolchgar! Cawl pysgod, cigoedd wedi rhostio a rhyw gaws wedi ffrio mewn siwgr i enwi dim ond rhai o'r danteithion. Mae'r plant dal yn sôn am y lle a'r bwyd.
Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?
Dwi ddim yn ffysi o gwbl ond mae offal yn troi'r stumog braidd!