Dau yn euog o dreisio a masnachu pobl i ddibenion rhyw
- Cyhoeddwyd

John Delaney a John Purcell
Mae rheithgor wedi cael dau ddyn yn euog o droseddau rhyw yn erbyn dwy ferch yn eu harddegau oedd wedi eu cymryd o gartref gofal, ac o fasnachu pobl er mwyn eu hecsploetio yn rhywiol.
Mae'r barnwr yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi rhybuddio John Delaney, 31 oed ac o Wrecsam, a John Purcell, 33 oed ac o Ellesmere Port, eu bod yn wynebu dedfrydau hir o garchar.
Cafodd rhai o'r dyfarniadau eu cyhoeddi ddydd Mercher ac fe wnaeth y rheithgor gwblhau eu trafodaethau ddydd Iau.
Mae'r ddau ddiffynnydd wedi eu cadw yn y ddalfa nes y gwrandawiad i'w dedfrydu ar 13 Rhagfyr.
Cafwyd Purcell yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio merch 15 oed, a phedwar cyhuddiad o fasnachu pobl at ddibenion camfanteisio'n rhywiol rhwng Rhagfyr 2011 ac Ebrill 2012.
Cafwyd Delaney, oedd yn byw ym maes carafanau Ffordd Rhuthun, yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio, un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol a thri chyhuddiad o fasnachu pobl er mwyn camfanteisio yn rhywiol.
Roedd y cyhuddiadau yn ei achos o yn ymwneud â dwy ferch.
Roedd trydydd dyn - Todd Wickens, sy'n 28 oed ac o Wrecsam - yn wynebu tri chyhuddiad, ond fe benderfynodd y llys ei fod yntau'n ddieuog o fasnachu pobl a threisio.
Dywedodd y barnwr, Rhys Rowlands bod y troseddau yn rhai "difrifol iawn" ac y byddai Delaney a Purcell yn wynebu "dedfrydau hir o garchar".
Mae hefyd wedi canmol gwaith Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth ddwyn yr achos.