San Steffan wedi gadael i drenau Cymru 'waethygu'n fwriadol'

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth Cymru

Mae un o'r prif weision sifil yng Nghymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o adael i broblemau gyda threnau Cymru waethygu'n fwriadol.

Dywedodd Steven Jones, sydd yn gyfrifol am brosiectau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, nad oedd gan San Steffan "ddiddordeb yn ein problemau".

Yr wythnos diwethaf dywedodd penaethiaid y gwasanaeth nad oedden nhw'n gwybod beth oedd wedi achosi'r difrod diweddar i drenau oedd wedi arwain at drafferthion i deithwyr.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am sylw.

'Safonau mor isel'

Ers mis Hydref mae cwmni KeolisAmey wedi bod yn rhedeg rhwydwaith drenau Cymru a'r Gororau dan enw Trafnidiaeth Cymru, gan ddod â chyfnod Trenau Arriva Cymru o redeg y fasnachfraint i ben.

Ond ers hynny mae'r gwasanaeth wedi wynebu trafferthion, gyda bron i 20 trên o'r fflyd o 127 yn cael eu tynnu o'r gwasanaeth ar un penwythnos oherwydd difrod i olwynion.

Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru ymddiheuro i deithwyr, gan rybuddio bod disgwyl rhagor o broblemau ar y rhwydwaith.

Wrth roi tystiolaeth i ACau ddydd Mercher dywedodd Simon Jones, Cyfarwyddwr Isadeiledd Economaidd gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, eu bod nhw wedi codi problemau ynghylch y stoc drenau cyn cymryd yr awenau.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Simon Jones a Ken Skates yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor economi'r Cynulliad ddydd Mercher

"Doedd gan Llywodraeth y DU ddim diddordeb yn ein problemau, roedden nhw eisiau i'r fasnachfraint newydd ddelio gyda hynny," meddai.

"Felly cafodd y problemau hynny eu storio'n fwriadol gan gyn-berchnogion y cytundeb hwnnw, ac mae'n rhaid i ni fynd drwy'r rheiny yn y 15 mis sydd gennym ni rhwng nawr a diwedd 2019."

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates nad oedd y cytundeb blaenorol - gafodd ei drafod rhwng Llywodraeth Lafur y DU a Threnau Arriva Cymru cyn datganoli - yn "addas i'w bwrpas".

"Fe wnaeth Trenau Arriva Cymru gyrraedd gofynion y cytundeb hwnnw," meddai. "Ond roedd y safonau mor isel nes bod dim ond angen gwneud yr isafswm o ran cynnal a chadw'r trenau."

Trydaneiddio

Dywedodd Mr Skates fod y broses o drosglwyddo'r fasnachfraint yn debyg iawn i brynu car.

"Pan 'dych chi'n prynu car 'dych chi'n gwybod fod MOT sy'n golygu bod isafswm o ran safonau," meddai. "Beth doedden ni ddim yn gwybod oedd y rhestr o bethau sydd hefyd wedi'u cynghori."

Dywedodd Mr Jones fod penderfyniad Llywodraeth y DU i gwtogi faint o'r llinellau roedden nhw am drydaneiddio hefyd wedi achosi problemau.

Roedd disgwyliad y byddai'r trydaneiddio ar rai llwybrau, gan gynnwys rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn rhyddhau trenau disel i gael eu defnyddio ar linellau eraill.

Pan ddigwyddodd hynny ddim, meddai, roedd hynny'n golygu mwy o bwysau ar wasanaeth oedd eisoes yn ceisio ymdopi gyda "thwf yn nifer y teithwyr".