Galw am atal gweddïo gorfodol mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Lily McAllister-Sutton ac Rhiannon ShiptonFfynhonnell y llun, Fiona McAllister
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Lily McAllister-Sutton ac Rhiannon Shipton lansio y ddeiseb y llynedd

Mae cefnogwyr deiseb i atal gweddïo gorfodol mewn ysgolion wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i geisio annog gweinidogion i ddod a'r arfer i ben.

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Seciwlariaeth wedi cysylltu gyda'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams AC, yn dilyn deiseb sydd wedi'i lunio gan fyfyrwyr yn Ysgol Glan Taf, Caerdydd.

Fe wnaeth Rhiannon Shipton a Lily McAllister-Sutton lunio'r ddeiseb y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall cryfder y farn ar y mater hwn".

'Teimlo'n ddi-werth'

Yn ôl Miss Shipton, 16 oed, mae sawl newid wedi digwydd yn yr ysgol ar ôl i'r ddeiseb gael ei lansio, ond mae'r arfer o weddïo mewn gwasanaethau wedi dychwelyd.

"I ddechrau, fe ddywedwyd nad oedd rhaid i ni orfod gweddïo os nad oedden ni eisiau, ond mae hyn wedi cropian yn ôl yn araf bach," meddai.

"Roedd yn arfer bod os nad oeddech chi'n gweddïo, byddai'r athrawon yn rhoi ffrae i chi, ond i rai pobl, nid yw gweddïo yn golygu rhyw lawer iddyn nhw fel person crefyddol, felly mae'n teimlo ychydig yn ddi-werth."

Ychwanegodd: "Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ymgorffori Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig yn eu polisi, sy'n caniatáu rhyddid llawn o fynegiant crefyddol. Nid yw'r polisi presennol ar gyd addoli mewn ysgolion yn gwneud hynny.

"Nid oes gan y mater yma unrhyw beth i wneud gyda'r cwricwlwm cenedlaethol a does dim rheswm pam na allai'r llywodraeth ddelio gyda'r testun o addoli nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddeiseb bellach wedi'i chyflwyno i'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams AC

Fe wnaeth y Pwyllgor Deisebau ystyried y ddeiseb ar 19 Mehefin yn dilyn datganiad gan Ms Williams a sylwadau pellach gan y deisebwr, ac fe gytunon nhw i ddisgwyl am ddiweddariad gan Ms Williams yn dilyn adolygiad.

'Trafferthion'

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Genedlaethol Seciwlariaeth: "Ein dealltwriaeth yw bod yr adran addysg wedi derbyn sawl deiseb ar y mater yma ac fe gafodd adolygiad mewnol ei addo."

Ychwanegodd y llefarydd bod "addoli ar y cyd yn achosi trafferthion" a bod addoli gorfodol "yn swyddogaeth amhriodol gan y wladwriaeth ac mae'n mynd yn erbyn hawliau a rhyddid pobl ifanc a theuluoedd i grefydd neu gred".

"Mae gwasanaethau ar y cyd yn gallu chwarae rhan bwysig o gael teimlad o gymuned o fewn ysgolion.

"Mae gwasanaethau gyda dimensiwn moesol yn gallu hybu gwerthoedd allai fod o fudd i ddisgyblion yn ysbrydol ac yn gymdeithasol yn eu datblygiad diwyllianol, a dydy addoli ddim yn rhan o gyrraedd y gwerthoedd yma," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan rieni'r hawl i dynnu eu plant allan o unrhyw addoli ar y cyd."