Oes angen gwella gwasanaethau cydaddoli mewn ysgolion?
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ifanc yn ymbellhau o gydaddoli mewn ysgolion "am nad yw'n cael ei wneud yn dda iawn", medd yr Eglwys yng Nghymru.
Roedd yr Eglwys yn ymateb i benderfyniad un o bwyllgorau'r Cynulliad i ofyn i'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i adolygu'r arfer mewn ysgolion.
Mae'n ofyniad cyfreithiol ar ysgolion i gynnal gwasanaethau addoli ar y cyd.
Ond ysgrifennodd y Pwyllgor Deisebau at Ms Williams yn gofyn iddi ystyried a oedd yn gydnaws â'r ddeddf hawliau dynol.
Fe ddaeth y pwyllgor i'r penderfyniad ddydd Mawrth diwethaf, wedi i ddwy ferch ysgol o Gaerdydd gyflwyno deiseb ar y mater.
'Mabwysiadu agweddau modern'
Mae Rhiannon Shipton a Lily McAllister-Sutton o ysgol Glantaf wedi casglu 1,333 o enwau ar y ddeiseb, sy'n galw ar y Cynulliad i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf sy'n tynnu'r rheidrwydd oddi ar ysgolion i gynnal gwasanaethau addoli crefyddol.
Mae'r ddwy, sy'n dweud nad ydyn nhw'n credu yn Nuw, yn dweud ei bod hi'n bryd i'w hysgol nhw ac eraill yng Nghymru, i fabwysiadu agweddau modern.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi derbyn deiseb a gafodd ei dechrau fel ymateb i'r un gyntaf, i gadw'r canllawiau presennol.
Mae'r ddeiseb, sydd wedi ei chyflwyno gan Iraj Irfan, wedi ei harwyddo gan 2,231 o bobl.
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru: "Dydy'r gyfraith, sy'n gofyn am weithred ddyddiol o addoli mewn ysgolion, ddim yn fandad i orfodi disgyblion i adrodd Gweddi'r Arglwydd er mwyn eu hysbrydoli i ddod i'r Eglwys y Sul canlynol.
"Yn hytrach, mae'n wahoddiad i brofi ystyr ffydd ac ymrwymiad, mewn modd Gristnogol eang, tra'n deall a gwerthfawrogi persbectif eraill."
Ychwanegodd: "Yn aml, mae pobl ifanc yn ymbellau o gydaddoli mewn ysgolion am nad yw'n cael ei wneud yn dda iawn.
"Dylai addoli ar y cyd fod yn brofiad gwerthfawr a chyfoethog, sy'n greadigol, rhyngweithiol ac addysgol."
Dywedodd pennaeth Ysgol Glantaf, Alun Davies, ei fod yn parchu'r ffaith fod dau ddisgybl wedi mynegi eu barn a bod yr ysgol yn annog hynny.
Dywedodd, tra bo'r pwyslais ar Gristnogaeth, bod yna adegau pan fydd yr ysgol yn cynnal gwasanaethau pan fydd disgyblion yn dod at ei gilydd i drafod themau a materion moesol.
Ond mae cymdeithas Dyneiddwyr Cymru wedi disgrifio'r arfer fel un "hynafol".
'Annerbyniol'
Dywedodd Kathy Riddick, eu cydlynydd: "Mae gorfodi plant i addoli duw nad ydyn nhw o bosib yn credu ynddo yn amlwg yn annerbyniol ac yn amharchus i ryddid cred pobl ifanc.
"Ddylai hi ddim cymryd dau ddisgybl ysgol i ddarbwyllo Llywodraeth Cymru o hyn, ond rydym yn gobeithio y bydd Kirsty Williams nawr yn rhoi sylw haeddiannol i'r mater a chael gwared â'r gofyniad cyn gynted â phosib."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Dylai addoli ar y cyd fod yn sensitif i ystod o gredoau disgyblion mewn ysgol ac fe ddylai roi'r cyfle i ddisgyblion addoli, heb eu hannog i wneud rhywbeth sy'n groes i'w dysg, crefydd neu ffydd."
"Mae hawl gan rieni i wneud cais i'w plentyn gael ei eithrio o gydaddoli ac mae'n rhaid i'r ysgolion gytuno i geisiadau o'r fath."