Tara Bethan: 'Yoga'n atgoffa fi bo' fi'n ocê!
- Cyhoeddwyd
Mae hi ar fin ail-ymddangos ar Pobol y Cwm, mae hi newydd orffen fod yn un o feirniaid panel Junior Eurovision a bydd hi'n ymddangos cyn hir mewn cyfres ddrama newydd o'r enw 35 Awr.
Ond ar ddiwrnod ei phenblwydd aeth Tara Bethan i sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru am ei phlentyndod prysur ac am ei thatŵ, sydd yn gymorth iddi gadw'i bywyd o dan reolaeth.
Dwi 'di bod yn perfformio ers yn blentyn bach a does dim llawer o ryfadd, gan fod perfformio yn rhan o'r ddwy ochr o'r teulu.
Roedd mam fy mam yn tarpeze artist oedd yn teithio gyda 'The Helena Trio' a roedd ei gŵr hi, sef taid, yn ventriloquist.
Roedd Mam yn ddawnswraig a Dad, wel, reslar a pherfformiwr, felly oedd hi'n gwbl naturiol i mi gael gwersi ballet pan o'n ni'n dair... a wnes i gymryd ato fo fel chwadan at ddŵr.
Plentyndod llawn
Felly o sbio nôl, gyda'r gwersi ballet a gwersi canu a dawnsio, dwi'n meddwl efallai bod fi wedi'i gor-wneud hi, achos beth ges i ddim oedd plentyndod arferol.
Rwan, dwi ddim yn difaru bellach, achos be' wnes i yn fy ugeiniau oedd gwneud fyny am hynny, drwy ddim gweithio'n galed iawn a chymryd amser allan i ddarganfod pwy o'n i fel person. Pethau mae plant yn cael yr amser i wneud yn raddol fel arfer, ond doedd gennai ddim amser i wneud pan yn blentyn.
Roedd genna'i yrrwr o'r enw Laurence, a roedd Laurence yn pigo fi fyny o'r ysgol, gyrru fi i'r holl wersi ar ôl ysgol fel gwersi tap, gwersi ballet, gwersi llefaru ac yna i'r dafarn i gael swper efo Mam a Dad.
Dyna lle roedden ni'n bwyta pob nos gan fod Mam a Dad yn brysur hefyd. Doeddan ni byth fel teulu'n eistedd rownd y bwrdd bwyd, neu eistedd o flaen y teli... o'n ni'n mynd, mynd, mynd.
Roedd Dad yn creu sioeau reslo rownd y byd a Mam yn rhedag efo fo... ond Mam oedd y bos go iawn!
Gwarchodwyr gwahanol
Wnes i dyfu fyny efo pobl lliwgar a dweud y lleia'. Wnes i dyfu fyny yn cael fy ngwarchod gefn llwyfan gan bobl fel Giant Haystacks, King Kong Kirk.... a roedd y merched oedd yn reslo, ar y cyfan, yn buteiniaid.
Weithiau dwi'n cwestiynu ethics fy rhieni yn gadael fi gyda phobl lliwgar fel'na, ond fyddai'n ddiolchgar am byth iddyn nhw am y rhyddid!
Ond wnaeth hi gymryd blynyddoedd i mi deimlo bo' fi'n ffitio mewn, achos wnes i dyfu fyny efo oedolion. Do'n i byth o gwmpas plant. O'n i'n unig blentyn, ac yn yr ysgol hyd yn oed o'n i'n wahanol achos fi oedd y ferch 'na oedd wastad i ffwrdd achos o'n i'n gwneud Heno neu'n gwneud Uned 5 a wedyn pan es i'r ysgol uwchradd, ges i 'mwlio oherwydd hynna.
Pan o'n ni'n 13, wnes i Bugsy Malone yn Llundain, ac felly pob yn ail wythnos, fydden ni'n byw efo hogan arall oedd yn y sioe ac yn mynd i'w hysgol hi, ond efo gwaith iaith Gymraeg o Ysgol Glan Clwyd... felly'r rhan fwyaf o'r amser, o'n i yna yn wingio hi!
Ond ar ben hynny, roedd HTV yn gwneud rhaglen ddogfen o mywyd i a dwi'n cofio diwedd hynna oedd genod blwyddyn yn hŷn na fi yn yr ysgol yn flushio mhen lawr y toiled fel rhyw fath o 'Who do you think you are...?' math o beth. Felly mi roedd hynna yn gyfnod anodd.
Tawelu prysurdeb bywyd
O edrych yn ôl ar y cyfnod yna, petai chi'n gofyn i mi, a wnaethpwyd camgymeriadau? Oeddwn i'n gweithio'n rhy galed? Yna fydden i'n gorfod dweud oeddwn... ond roeddwn yn mwynhau pob eiliad ac mae'n rhaid i bawb gymryd cyfrifioldeb dros eu bywydau eu hunain.
Rhyw dair blynedd yn ôl es i India am fis dros adeg fy mhenblwydd i ddysgu i fod yn hyffordwraig yoga.
Dwi wastad wedi dweud ia i pob dim yn fy mywyd... mae yn fy natur i, ac ar y pryd o'n i wedi dod i ddiwedd cyfnod ofnadwy o brysur yn Pobol y Cwm.
O'n i mewn drwy'r dydd, pob dydd yn ffilmio golygfeydd trwm ofnadwy a wnaeth fy meddwl i fynd yn drymaidd oherwydd y prysurdeb 'ma... o'n i angen dianc ac o'n i angen tawelu fy meddwl.
Wnaeth y cwrs yoga newid fy mywyd, a newid y ffordd dwi'n sbio ar fywyd. Dwi'n cofio ar ddiwrnod fy mhenblwydd yna, wnes i ddeffro am hanner awr wedi pump y bore, gwneud y dwy awr o wers oedd i gael pob bore, ac wedyn mynd lawr i'r traeth, cael paned o goffi a teimlo fatha'...'Dwi'n ocê!'
Cadw'r ddisgyl yn wastad
Mae yoga dal yn elfen hanfodol o fy mywyd, ac yn byw ym mhrysurdeb Caerdydd, mae'n anoddach cadw'r atgof yna taw'r unig peth 'da ni wir ei angen er mwyn cadw i fynd yw ein iechyd meddwl. Dŵr, bwyd, digon o gwsg... ond iechyd meddwl ydy'r peth pwysicaf, dyna ddysgais i.
Does gen i ddim cywilydd o gwbl cyfaddef bod fi wedi bod yn... ac yn dal i fod yn stryglo gyda cyfnodau isel.
Mae bywyd yn gymhleth ac yn anodd ar adegau dydi!
Tydw i erioed wedi derbyn meddyginiaeth at iselder oherwydd mae'r syniad o roi rheolaeth fy iechyd meddwl i dablet yn codi ofn anferth arnai. Dwi'n hollol hollol parchu bod rhai pobl gwir angen y meddyginiaeth yna, felly dwi wedi gorfod gofyn i fy hun... 'ydw i'n dioddef o iselder, neu ydw i jest yn cael diwrnodau tywyll?'
Ond dwi wedi bod at ddoctoriaid yn y gorffennol sydd wedi dweud wrtha'i 'Rwyt ti'n isel, rwyt ti angen meddyginiaeth... a dwi 'di mynd... 'na!'.
Felly wnes i benderfynu troi at therapi - siarad. A dyna fy ffordd i o ddygymod, lot o siarad.
Dwi wedi gweithio lot ar fy hun, a fy meddwl, dros y blynyddoedd, yn enwedig dros y naw mlynedd dwythaf ers marwolaeth fy nhad.
Un peth oedd ymdopi a cholli rhiant, peth arall oedd dygymod â bywyd ar ei newydd wedd, a pherthynas newydd gyda Mam, yn enwedig fel unig blentyn.
Hefyd o ddiddordeb:
Erbyn hyn dwi'n edrych o'm cwmpas a mae pobl da o'm cwmpas i gyd… a dwi'n credu os oes pobl da gyda chi fel ffrindiau, ma'n debyg eich bod chi'n berson da.
Pan dwi ddim yn perfformio, dwi'n dechrau teimlo fy meddwl yn dechrau mynd eto felly mae'n rhaid i mi gadw ar ben hynna a chael y buzz yna o berfformio, sydd wastad wedi fy helpu i gadw fy ysbryd i fyny.
Mae genna'i tatŵ ar fy ngarddwrn o gannwyll i fy atgoffa, pan fydd pethau weithiau'n mynd yn ormod, i dychmygu fy hun fel fflam cannwyll, a bod yr holl bethau 'na, gwynt, glaw ac ati, yn mynd o amgylch ond bod y fflam yn cadw yn solat.
Fydde fy nhad yn mynd, 'O f'annwyl dad, am dwt lol....' Ond mae'n helpu fi ac yn stopio fi rhag cael fy llusgo i ffwrdd â phrysurdeb bywyd. Mae'n atgoffa fi bo' fi'n ocê!