85 o swyddi newydd yng nghwmni moduro yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae buddsoddiad gwerth £4.4m yn golygu bydd cwmni moduro Calsonic Kansei yn creu 85 o swyddi yn ardal Llanelli.
Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn golygu gall y cwmni ddatblygu a chynhyrchu technoleg flaenllaw ar gyfer cerbydau electronig yn eu gweithfeydd.
Mae'r cwmni eisoes yn cyflogi dros 300 o weithwyr yn yr ardal wrth greu systemau oeri a chydrannau eraill ar gyfer nifer o gwmnïau moduro rhyngwladol.
Yn ôl y llywodraeth mae'r buddsoddiad yn dangos ymrwymiad y cwmni at "waith teg, lleihau ôl-troed carbon a hyrwyddo iechyd a dysgu yn y gweithle".
'Dangos hyder'
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, fod y buddsoddiad yn dangos "hyder gwirioneddol yn y gweithlu yn y gweithfeydd yn Llanelli" ac yn "newyddion gwych".
Ychwanegodd fod y buddsoddiad am sicrhau "swyddi dros gyfnod o o leiaf pum mlynedd".
Wrth ymateb dywedodd Keiichiro Miyanaga, Prif Swyddog Gweithredol Calsonic Kansei yn Ewrop fod y "cymorth hwn yn helpu sicrhau'r sgiliau, y cynnyrch a'r buddsoddiad angenrheidiol ar y safle yn Llanelli".