Nôl o fewn Clic

  • Cyhoeddwyd

Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd S4C fwriad i gynnwys detholiad o hen gyfresi a ffilmiau poblogaidd y sianel ar y gwasanaeth ar-alw Clic.

Fe gynhaliodd Cymru Fyw arolwg cyflym 'anwyddonol' i weld pa gyfresi y byddai'r Cymry yn hoffi eu gweld unwaith eto. Dyma rai o'r awgrymiadau:

Disgrifiad o’r llun,

Y Brodyr Gregory neu'r 'Brodyr Bach'

Brodyr Bach

Doedd neb yn saff rhag triciau'r ddau frawd yma. Mae'n wyrth bod neb wedi colli eu limpyn yn llwyr, pan oedden nhw'n rhedeg ymlaen i ddatgelu i'r truan ar ddiwedd y rhaglen ei fod wedi ei "ddal gan y Brodyr Bach"!

Ffynhonnell y llun, S4C

Emyn Roc a Rôl

Fel mae'r teitl yn lled awgrymu, hynt a helynt pedwar o aelodau grŵp pop o'r gogledd oedd stori ganolog y ddrama gyfres yma gafodd ei dangos gynta' yn 2004/05.

Mae'r gyfres wedi ei leoli ym Mangor yn niwedd y 70au a dechrau'r 80au, cyfnod a lleoliad difyr i adlewyrchu'r newidiadau oedd yn digwydd yng Nghymru ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Antena

Bacha Hi O'Ma

Fuoch chi yn chwilio am ddêt ar y sioe hon o'r 90au? Fuasech chi yn falch o weld Alwyn Siôn a'r darpar gariadon yn ôl ar y sgrîn ta 'no lighty no likey' ydy hi erbyn hyn?

Disgrifiad o’r llun,

Jabas a'i ffrindiau

Jabas

Yn seiliedig ar nofel Penri Jones, mae'r gyfres yn dilyn hanes Jabas Jones a'i ffrindiau yn ystod gwyliau'r haf ym Mhen Llŷn. Aeth Owain Gwilym, a oedd yn chwarae'r brif ran, yn ei flaen i gyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru. Fe gawsom ni glywed hanes aelodau eraill y cast mewn rhifyn arbennig o Lle aeth Pawb? ar S4C.

Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

Hysh a wei! Roedd 'na dipyn o gefnogaeth i'r ddau gymeriad lliwgar yma. Mae 'na ambell i 'hen stejar' am weld y gyfres Teliffant yn ôl hefyd ble y gwelson ni antics Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan y Twmffat Twp am y tro cyntaf ar y sgrîn fach.

Disgrifiad o’r llun,

Delyth Hâf yn dioddef 'creisys' arall yn 'Tydi Bywyd yn Boen'

Tydi Bywyd yn Boen

Roedd bywyd Delyth Hâf yn gymhleth ac yn llawn tyndra ar ddiwedd yr 80au. Aeth ymlaen i fod yn gymhleth ac yn llawn tyndra tra yn y coleg, gyda 'Tydi Coleg yn Grêt' yn fuan wedyn.

C'mon Midffîld

Doedd dim posib llunio rhestr o'r fath heb gynnwys y gyfres eiconig am hynt a helynt tîm pêl-droed Bryncoch. Dathlodd y gyfres boblogaidd ei phen-blwydd yn 30 oed ym mis Tachwedd eleni.

Mae S4C o bryd i'w gilydd yn ail ddarlledu rhai o'r penodau mwyaf cofiadwy, ond braf byddai cael yr holl gyfresi mewn un man.

Mae hi'n anodd credu bod y gyfres ola' wedi ei darlledu nôl yn 1994 - ond mae'r ffans dal yn cofio'r llinellau eiconig...

Disgrifiad,

Mae 30 mlynedd ers pennod gyntaf C'mon Midffîld. Beth yw eich hoff ddyfyniad chi?

Pa gyfres hoffech chi ei gweld ar y Clic newydd? Rhowch wybod i ni ar ein cyfrif Twitter, dolen allanol neu ar ein tudalen Facebook, dolen allanol. Neu ebostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol